Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd a staff ar restr fer gwobrau BAME cenedlaethol

Gwobr

17 Mai 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â nifer o’i staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cenedlaethol Iechyd a Gofal BAME (BAMEHCA) 2022.

Mae’r BAMEHCA yn ddigwyddiad blynyddol, a gynhelir gan DiversityQ, sy’n cydnabod gwaith caled a gwydnwch gweithwyr proffesiynol BAME yn sectorau iechyd a gofal y DU.

Y staff sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn naw categori yw:

  • Joe Jaimangal, Nyrs Arbenigol yn y Gwasanaeth Asesu Cof yn Sir Benfro ar gyfer nyrs BAME y flwyddyn
  • Cynthia Ntanganika, Uwch Brif Nyrs yn Ysbyty Tywysog Philip ar gyfer nyrs BAME y flwyddyn
  • Dr Tipswalo Day, ST7 Hyfforddai Arbenigol mewn Obstetreg a Gynaecoleg yn Ysbyty Glangwili ar gyfer Hyrwyddwr Clinigol
  • Jefferson De Vera, nyrs staff ITU yn Ysbyty Tywysog Philip, ar gyfer Hyrwyddwr Clinigol
  • Dr Rajeev Vaikanthanathan, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Ashgrove, Llanelli, ar gyfer Hyrwyddwr Clinigol
  • Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol ar gyfer Menter Gymunedol y Flwyddyn
  • Augusta Stafford-Umughele, Rheolwr Gweithlu, Diwylliant, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ar gyfer Arweinydd Tosturiol a Chynhwysol
  • Dr Anand Ganesan, Seiciatrydd Ymgynghorol ar gyfer TIMC Caerfyrddin a CRHTs yng Nghanolfan Adnoddau Cae Ffynnon, Caerfyrddin ar gyfer Arweinydd Tosturiol a Chynhwysol
  • Dr Premkumar Pitchaikani, Pediatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili ar gyfer Arweinydd Tosturiol a Chynhwysol
  • Chris Martin, Rheolwr Newid Busnes Digidol, ar gyfer Hyrwyddwr Digidol
  • Dr Hashim Samir, Radiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, ar gyfer Arweinydd Annog Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Dr Akhtar Khan, Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, ar gyfer Menter Iechyd Meddwl
  • Beverly Davies, Rheolwr Partneriaeth Strategol a Chynhwysiant ar gyfer Cyflawniad Eithriadol y Flwyddyn
  • BIP Hywel Dda am Gyflawniad Corfforaethol Neilltuol y Flwyddyn

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Grŵp Cynghori BAME y bwrdd iechyd: “Rwy’n falch iawn o weld holl waith rhagorol ein cydweithwyr BAME yn Hywel Dda yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. Mae’n wych bod cymaint o staff, a’r bwrdd iechyd ei hun, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn. Pob lwc i bawb a diolch am eich ymroddiad.”

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau 9 Mehefin 2022 yn Llundain. I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Iechyd a Gofal Cenedlaethol BAME (BAMEHCA), ewch i The National BAME Health and Care Awards | Promoting BAME excellence in healthcare (bamehscawards.org) (agor mewn dolen newydd)