Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd a Gwasnaeth Tân mewn partneriaeth i gyflwyno'r brechlyn - Cross Hands

Bydd clinig brechu COVID-19 symudol yn gweithredu yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos hon yn dilyn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r gwasanaeth tân yn darparu un o'i gerbydau lle bydd staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhoi’r frechlyn i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n gofyn am naill ai dos cyntaf neu ail ddos (Moderna a Oxford AstraZeneca). Ni fydd angen apwyntiadau.

Bydd y clinig brechu symudol wedi'i leoli ym maes parcio Leekes a bydd yn gweithredu’n ddyddiol rhwng dydd Iau 1 a dydd Sadwrn 3 Gorffennaf (11am i 6pm).

Bydd aelodau o'r gwasanaeth tân hefyd yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i'r cyhoedd, gan gynnwys diogelwch y cartref. Bydd tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y bwrdd iechyd yn ymuno â nhw i estyn allan at bobl o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin i'w helpu yn ystod pandemig COVID-19, cefnogi cydlyniant cymunedol, a chael gwared ar rwystrau rhag cyrchu gwasanaethau.

Gyda'r cynnydd mewn achosion ledled y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddod ymlaen am eu dos cyntaf a'r ail ddos.

Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad, ond os oedd unrhyw un yn dymuno trefnu apwyntiad gallant wneud hynny trwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gyflwyno’r raglen frechu.