Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd i ystyried darparu gwasanaethau meddyg teulu i gleifion Meddygfa'r Sarn

22 Ionawr 2026

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion sydd wedi'u cofrestru ym Meddygfa'r Sarn yn y dyfodol yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Iau 29 Ionawr.

Mae papur i'w drafod yn nodi adolygiad o sut mae Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) yn cael eu darparu ar hyn o bryd yn y practis ym Mhont-iets ac yn argymell gwasgaru cleifion i bractisau cyfagos o 30 Mehefin 2026 ymlaen.  O dan yr argymhelliad, byddai pob claf yn cael ei drosglwyddo i bractis arall sy'n lleol i'w cyfeiriad cartref.

Mae Meddygfa'r Sarn wedi bod yn bractis a reolir gan y bwrdd iechyd ers 2017 yn dilyn ymddiswyddiad o'i gontract GMS gan y cyn-bartneriaid. Ers hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth gofrestredig y practis o tua 4,350 o gleifion.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r practis wedi wynebu heriau staffio ac ar hyn o bryd nid oes ganddo feddygon a gyflogir yn barhaol. Mae'r adeilad ei hun yn fach ac yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig. 

Ym mis Hydref 2025, yn dilyn canllawiau cenedlaethol, cynhaliodd y bwrdd iechyd Banel Practis Gwag . Adolygodd y panel opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal yn y tymor hir, gan ystyried mynediad i gleifion, cynaliadwyedd y gweithlu, adeiladau, ansawdd gofal, ac ystyriaethau ariannol.

Daeth y panel i'r casgliad bod gwasgariad cleifion wedi'i reoli yn cynnig yr ateb hirdymor mwyaf cynaliadwy i gleifion ac ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yn ardal Aman Gwendraeth. 

Os bydd y Bwrdd yn cymeradwyo'r argymhelliad, bydd yn golygu bod pob claf yn cael ei drosglwyddo gan y bwrdd iechyd i'r practis agosaf nesaf i'w cyfeiriad cartref, gan gynnwys Meddygfa Nant y Glo ym Mhontyberem, Meddygfa Minafon yng Nghydweli ac i nifer lai o gleifion, practisau yn Llanelli.

Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud, a bydd cyfarfod y Bwrdd ar 29 Ionawr yn gyfle i'r aelodau ystyried yr argymhelliad a'r camau nesaf.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Hywel Dda: "Fel bwrdd iechyd mae gennym ddyletswydd i sicrhau darpariaeth  ddiogel, gynaliadwy ac o ansawdd uchel o Wasanaethau Meddygol Cyffredinol i'n poblogaeth. 

"Mae Meddygfa'r Sarn yn bractis bach a gwledig ac mae wedi cael trafferth darparu'r lefel o barhad gofal a gwasanaethau yr hoffem i'n cleifion. Roedd y panel o'r farn mai gwasgaru'r rhestr cleifion yw'r ffordd orau ymlaen i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y gofal gorau posibl a bydd y Bwrdd yn ystyried yr argymhelliad hwn yn ofalus. 

"Os cymeradwyir argymhelliad y Panel Practis Gwag, mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â chleifion, staff, cymunedau lleol a rhanddeiliaid cyn i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu i ddeall sut y gallai'r newid effeithio arnynt ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen."

I gael rhagor o wybodaeth, mae papur y Bwrdd ar gael i'w ddarllen yma Agenda a phapurau'r Bwrdd 29 Ionawr 2026 (yn agor mewn dolen newydd) a bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei ddarlledu'n fyw o 9.30am ddydd Iau 29 Ionawr ar www.youtube.com/hywelddahealthboard1 (yn agor mewn dolen newydd).