Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddi mewn ymchwil heddiw er budd cleifion yfory

Llun o Dr Peter Cnudde

10 Mai 2022

Mae datblygu a gweithredu prosesau, gweithdrefnau a thriniaethau meddygol, yn seiliedig ar y cannoedd, os nad miloedd o oriau o amser a fuddsoddir mewn ymchwil.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ers nifer o flynyddoedd, wedi chwarae rhan weithredol wrth gefnogi ymchwil i wella gofal a gwasanaethau cleifion.

Bydd y bwrdd iechyd yn cydweithio â phartneriaid, gan gynnwys Prifysgol y Drindod Dewi Sant (agor mewn dolen newydd) i gefnogi darpariaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach (agor mewn dolen newydd), yn o gystal â Prifysgol Aberystwyth (agor mewn dolen newydd) i helpu i drawsnewid gofal iechyd gydag agoriad cyfleuster ymchwil clinigol (agor mewn dolen newydd)

Yn gynharach eleni, derbyniodd Dr Peter Cnudde, sy’n lawfeddyg amnewid cymalau ar raddfa fawr yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel rhan o Wobrau Amser Ymchwil y GIG. Nod y wobr hon yw meithrin gallu ymchwil yn y GIG trwy gynnig cyfle i staff wneud cais am amser wedi'i neilltuo i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil.

Maes ymchwil Dr Cnudde yw datblygu llwybr claf sy’n cael ei alluogi gan dechnoleg ar gyfer arthroplasti, llawdriniaeth lle mae’r cymal a ddifrodwyd yn cael ei ddisodli gan un artiffisial.

Mae wedi bod yn datblygu gwasanaeth arthroplasti’r bwrdd iechyd gyda’i gydweithwyr i ddod yn ganolfan atgyfeirio drydyddol, gan gymryd achosion cymhleth o fewn y bwrdd iechyd a Phowys. Arweiniodd y gwaith o weithredu’r Llwybr Gwellhad (ERAS) a dogfennaeth a gwybodaeth cleifion ar draws y bwrdd iechyd. Cynigiwyd cymrodoriaeth fawreddog Rothman-Ranawat gan Gymdeithas y Clun (UDA) i Dr Cnudde.

Dywedodd Dr Cnudde, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro er Anrhydedd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae fy niddordebau ymchwil presennol, a chyhoeddiadau blaenorol, yn bennaf ym maes arthroplasti a’i effeithiau hirdymor. Y nod yw gweithredu newidiadau seiliedig ar werth i wella gofal cleifion arthroplasti.

“Er budd y cleifion a’r system gofal iechyd, mae’n hollbwysig bod llawdriniaethau arthroplasti yn cael eu cynnal ar y claf iawn ar yr amser iawn gan ddefnyddio’r mewnblaniad cywir yn y lleoliad cywir er mwyn lleihau’r niwed i’r claf, costau economaidd ac emosiynol.

 “Hoffwn ehangu’r posibiliadau ymchwil o fewn Hywel Dda a chynnal treialon clinigol effaith uchel a fydd o fudd i’n cleifion yn lleol ond sydd hefyd ag arwyddocâd byd-eang. Byddai’r dyfarniad diweddar yn rhoi amser penodol i mi ehangu’r posibiliadau ymchwil o fewn Hywel Dda.

“Nod y prosiect ymchwil yw sicrhau ein bod yn gallu mabwysiadu dull cyson, sy’n canolbwyntio ar y claf, gan ganolbwyntio ein gwasanaeth ar brofiad, canlyniadau a gwerthoedd sy’n bwysig i gleifion ac yn seiliedig ar ymchwil o ansawdd uchel.”

Dywedodd Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal a chefnogi gweithgareddau ymchwil. Rydym yn falch iawn o’r gwaith y mae Dr Cnudde ac eraill yn ei wneud, a bydd yr adran ymchwil ac arloesi yn parhau i’w gefnogi’n agos pryd bynnag a lle bynnag y gallwn.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut y gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gefnogi gyda gweithgareddau ymchwil gysylltu â Leighton Phillips drwy Leighton.Phillips2@wales.nhs.uk.