Diweddariad 27 Hydref, 2021: Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd o oedi pob clinig cerdded i mewn ar gyfer brechlyn COVID-19 i sicrhau diogelwch ein staff brechu, canolfannau a’r priffyrdd cyfagos. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i dderbyn plant 12-15 oed ar gyfer clinigau cerdded i mewn yn ystod wythnos hanner tymor. Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn gweithio ar y ffordd orau bosib ymlaen i ddarparu brechiadau cerdded i mewn ochr yn ochr ag apwyntiadau. Gofynnwn yn garedig i bobl beidio cysylltu â’r bwrdd iechyd, ein canolfannau brechu neu feddygfeydd ar hyn o bryd ynglŷn â’r brechlyn atgyfnerthu.
21 October 2021
Gall pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 gerdded i mewn i unrhyw ganolfan frechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heb apwyntiad.
Rydych chi'n gymwys i gael dos atgyfnerthu os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
• Rydych chi'n 50 oed neu'n hŷn; neu yn 16 oed neu'n hŷn ac yn gweithio mewn cartref gofal, iechyd neu ofal cymdeithasol; neu'n 16 oed neu'n hŷn ac yn ofalwr di-dâl; neu yn 16 oed neu'n hŷn ac yn agored i niwed yn glinigol
a
• Cawsoch eich ail frechlyn dros 24 wythnos neu fwy yn ôl
Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn parhau i ysgrifennu at bobl yn uniongyrchol i gynnig apwyntiad iddynt ar gyfer eu dos atgyfnerthu mewn canolfan frechu torfol.
Mae croeso hefyd i bobl 16 oed a hŷn sydd am gael naill ai eu dos brechlyn cyntaf neu ail ddos i barhau i gerdded mewn i un o’n canolfannau.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael mynediad at eu dos atgyfnerthu COVID-19 ac rwy’n falch iawn o ddweud trwy ddiolch i ymdrechion ein staff brechu ar draws y tair sir, y gall unrhyw un sy’n ddyledus am eu dos atgyfnerthu gerdded i mewn i unhryw un o’n canolfannau.
“Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau crwydro dros amser. Bydd y dos atgyfnerthu hwn yn helpu i ymestyn yr amddiffyniad a gawsoch o'ch dau ddos cyntaf a rhoi amddiffyniad tymor hwy i chi felly mae'n bwysig dod ymlaen os ydych chi'n gymwys.
“Rydyn ni’n deall ein bod ni’n gofyn i rai pobl fynd i ganolfan brechu torfol am y tro cyntaf. Mae ein canolfannau yn darparu amgylchedd diogel, lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl.
“Ar hyn o bryd mae cydweithwyr gofal sylfaenol yn canolbwyntio ar ddarparu’r brechlyn ffliw blynyddol felly mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n ddyledus i gael eu dos atgyfnerthu yn gwneud pob ymdrech i fynd i’w canolfan brechu torfol agosaf. Gofynnir i unrhyw un sy'n wirioneddol methu â theithio i ganolfan aros am lythyr apwyntiad a ffonio'r rhif ar y llythyr am gymorth trafnidiaeth. "
Os ydych chi'n gymwys i gael dos atgyfnerthu, neu os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn dymuno cael eich brechlyn cyntaf neu'r ail frechlyn, mae croeso i chi gerdded i mewn i unrhyw un o'r canolfannau brechu torfol canlynol, nid oes angen apwyntiad:
Cwm-cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) – ar agor 10.00am i 8.00pm Dydd Llun – Dydd Sul ar gyfer dos atgyfnerthu, dos cyntaf ac ail ddos Pfizer. Ail ddos Moderna ar gael pob dydd Mercher ac ail ddos Oxford AstraZeneca ar gael pob dydd Iau. O ddydd Llun 1 Tachwedd bydd y ganolfan hon ar gau ar ddydd Llun a dydd Mawrth.
Diweddariad 22 Hydref: Bydd Canolfan Brechu Torfol Ysgol Trewen ar gau ar Ddydd Iau 28 a Dydd Gwener 29 Hydref. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
* Yn gywir adeg ei gyhoeddi. Rydym yn cynghori pobl i wirio amseroedd agor ar ein gwefan cyn teithio. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i dudalen rhaglen frechu COVID-19 (agor mewn dolen newydd)