27 Mehefin 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal sesiynau galw-heibio y gwanwyn hwn ar gyfer brechlyn atgyfnerthu COVID-19, a hynny ar gyfer plant dros 12 oed ac oedolion sy’n gymwys.
Mae pobl 75 oed a throsodd, preswylwyr cartrefi gofal i bobl hŷn a phlant 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu y gwanwyn hwn.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, “Mae COVID-19 yn parhau i fod yn fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol.
“Mae'n bwysig cael eich pigiad atgyfnerthu oherwydd, fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau gostwng dros amser. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu i’ch amddiffyn am fwy o amser a bydd hefyd yn helpu i leihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19.”
“Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sy’n gymwys ac sydd am fanteisio ar y cynnig o ddos atgyfnerthu, wneud hynny o hyd.
Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn dymuno mynychu sesiwn galw heibio, dim ond dod i un o’r canolfannau a restrir isod yn ystod oriau agor.
Os na allwch ddod i sesiwn galw heibio a’ch bod yn dal yn dymuno cael eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn, ffoniwch Hyb Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.
Oriau agor sesiynau galw-heibio am frechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn hwn:
Neyland, Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, Neyland, Sir Benfro, SA73 1SE – galw-heibio rhwng 9.20am a 5.20pm
Llanelli, Uned 2a, Ystâd Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW – galw-heibio rhwng 9.20am a 5.20pm
Cwm Cou, Ysgol Trewen, Cwm-Cou, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE – galw-heibio rhwng 9.20am a 5.20pm
Caerfyrddin, Clwb Rygbi Athletic Caerfyrddin, Parc Cambrian, Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, Caerfyrddin SA31 3QY – galw-heibio rhwng 9.45am a 5pm