Neidio i'r prif gynnwy

BIP Hywel Dda yn cefnogi anghenion gofal iechyd cymunedau amrywiol

Ch-Dd: Sandra Mitchell Rheolwr CDOT; Dr Akhtar Khan Seiciatrydd Ymgynghorol Ysbyty Glangwili; Helen Sullivan Pennaeth Partneriaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng  Ngwobrau BAM

6 Gorffennaf 2022

Effeithiodd pandemig COVID-19 ar bawb ar draws y byd, ond fe darodd ei effeithiau rai grwpiau yn galetach nag erail. Adroddwyd bod nifer anghymesur o bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi marw o achosion cysylltiedig â COVID-19. Mewn ymateb i adroddiad gan is-grŵp Economaidd-Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda University dîm penodol i ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae’r Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol, sef y cyntaf o’i fath yn GIG Cymru, yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau amrywiol ac wedi bod yn llais i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau i ofal iechyd a chyrchu gwybodaeth.

Meddai Sandra Mitchell, Rheolwr Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol: “Rydym yn bont rhwng y bwrdd Iechyd a’n cymunedau amrywiol, yn helpu pobl i gyrchu gwasanaethau gyda chymorth Cyfieithydd neu dderbyn gwybodaeth yn eu hiaith eu hunain.

“Rydym yn grymuso cymunedau i ofyn am gymorth Cyfieithydd wrth gyrchu gwasanaethau ac yn eu hannog i wneud dewisiadau ffordd iach o fyw a manteisio ar wasanaethau sgrinio, brechiadau, rhoi’r gorau i ysmygu a mwy.”

Yn ystod pandemig COVID 19, gweithiodd y tîm i rannu nifer o negeseuon yn benodol am Iechyd gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig; cynhyrchu adnoddau mewn 17 o ieithoedd; ymgysylltu â mwy na 650 o bobl; cefnogi 18 o glinigau brechu a dau glinig brechu symudol, a’r cyfan oll tra’n sicrhau cyfathrebu effeithiol trwy ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu a galluogi unigolion i gyrchu gwasanaethau gofal iechyd.

Mae prosiectau eraill y tîm yn cynnwys trefnu digwyddiad llesiant ar gyfer cymunedau Roma Dwyrain Ewrop; dosbarthiadau cymorth cyntaf ar gyfer cymunedau amlddiwylliannol gydag Ambiwlans Sant Ioan; creu cardiau cais am gyfieithu mewn nifer o ieithoedd i helpu pobl i wneud cais am gyfieithydd wrth gyrchu gwasanaethau gofal Iechyd, a theithiau cerdded llesiant i fenywod.  

Mae’r teithiau cerdded llesiant yn gyfle i fenywod o gymunedau amrywiol i ddod ynghyd i siarad am faterion Iechyd a’r hyn sy’n eu poeni, a hynny mewn amgylchedd diogel ac mewn ffordd ddiwylliannol briodol. Maent wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae’r Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol yn edrych i ehangu’r teithiau cerdded llesiant.

Yn ddiweddar, arweiniodd ymrwymiad y Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol i gefnogi cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at ennill gwobr Menter Gymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau (agor yn ddolen newydd) Iechyd a Gofal Cenedlaethol BAME.

Mae’r seremoni wobrwyo yn ddigwyddiad blynyddol, a gynhelir gan DiversityQ, sy’n cydnabod gwaith called a gwydnwch gweithwyr proffesiynol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn sectorau Iechyd a gofal y DU.