Neidio i'r prif gynnwy

Atriwm - canolfan iechyd a llesiant newydd yng Nghaerfyrddin 

[Datganiad i'r wasg Cyngor Sir Caerfyrddin - 14 Ionawr 2026] 

Atriwm, sydd wedi cael ei ddewis fel enw ar gyfer y ganolfan iechyd a llesiant newydd sbon yng Nghaerfyrddin, sydd i fod i agor ei drysau yn gynnar yn 2027. 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trawsnewid hen siop fanwerthu fawr (Debenhams) yn ardal Rhodfa'r Santes Catrin yn nhref Caerfyrddin yn gyfleuster unigryw a fydd yn darparu ystod o wasanaethau cymunedol mewn un lleoliad canolog. 

Gyda chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd y prosiect adnewyddu mawr hwn yn gartref i gyfleuster Chwaraeon a Hamdden sy'n cael ei redeg gan y Cyngor, Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid ac yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn lleoli nifer o'i wasanaethau yn yr Atriwm a bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig ei chlinigau therapi chwaraeon ac ymarfer corff o'r cyfleuster modern.  

Bydd Actif, Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cynnig ei gampfa 24 awr gyntaf yn yr Atriwm, ynghyd â stiwdios chwilbedlo a gweithgareddau o'r radd flaenaf, golff antur dan do, canolfan chwarae i blant, Gwibgertio Trydan, arena gemoli TAG Active â sawl parth ac ystafelloedd ar gyfer partïon. Bydd Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin y Cyngor yn symud i'r Atriwm, gan gynnig help, cyngor a chefnogaeth ynghylch amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor ac asiantaethau eraill. Bydd yr Atriwm hefyd yn gartref i ganolfan wybodaeth i ymwelwyr a fydd yn cefnogi twristiaeth leol a sirol.   

Bydd gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnwys timau nyrsio cymunedol a phlant, therapïau plant a phobl ifanc, yn ogystal â gwasanaethau deintyddol, iechyd rhywiol, fflebotomi, podiatreg ac iechyd meddwl. Bydd yn creu amgylchedd modern, hygyrch ar gyfer gofal iechyd yng nghanol y gymuned leol. 

Bydd adeilad yr Atriwm hefyd yn gartref i dîm Datblygu Pobl Hywel Dda, gan ddarparu amgylchedd dysgu a hyfforddi modern i staff y Bwrdd Iechyd.  

Bydd myfyrwyr y cwrs BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff dwyieithog yn darparu clinigau tylino meinwe feddal ac anafiadau o dan oruchwyliaeth y tîm academaidd. Mae'r rhaglen BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (agor mewn dolen newydd), wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Therapyddion Chwaraeon ac mae'n canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr i weithio yn yr agwedd ar ofal iechyd sy'n ymwneud yn benodol ag atal anafiadau ac adsefydlu cleifion.  Mae'r radd hefyd yn cael ei chymeradwyo gan y Gymdeithas Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) (agor mewn dolen newydd), sy'n golygu ei bod yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant ar gyfer rolau swyddi fel hyfforddwr campfa a hyfforddiant personol, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gymwys iawn ar gyfer y gweithle.  Bydd cleientiaid hefyd yn elwa o'r gampfa Actif sydd gerllaw a'r ystod o wasanaethau iechyd i ategu'r driniaeth a ddarperir.  

Mae'r enw 'Atriwm' wedi'i ysbrydoli i gydnabod gwreiddiau Rhufeinig Caerfyrddin, gyda'i chaer a'i amffitheatr. Mae Atriwm, gair Cymraeg, yn deillio o'r gair Lladin, Atrium, sy'n golygu cyntedd neu brif gwrt agored tŷ Rhufeinig.  

Atriwm hefyd yw'r enw ar un o ddwy siambr uchaf y galon ddynol, enw sy'n briodol i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r prosiect a phwrpas iechyd a llesiant yr adeilad. 

Yng nghyd-destun pensaernïaeth fodern, mae'r Atriwm yn talu teyrnged i ffenestri gwydr mawr eiconig yr hen adeilad manwerthu. 

Gyda dyddiad cwblhau gwreiddiol o ddechrau 2026, bellach disgwylir i'r Atriwm agor yn gynnar yn 2027 oherwydd gwaith adfer annisgwyl i ffasâd yr adeilad. Bydd y prif gontractwr, Bouygues UK, yn dechrau gweithio ar ffasâd yr adeilad cyn bo hir a fydd yn gofyn am system rheoli traffig ar Heol y Gwyddau, sy'n debygol o fod ar waith tan Hydref 2026.  

Mae contractwyr lleol, gan gynnwys FP Hurley, Shufflebottom a Becker Sliding Partitions, wedi bod yn allweddol wrth roi'r cynllun ar waith, gyda chefnogaeth rhwydwaith o gadwyni cyflenwi, gan greu manteision economaidd gwirioneddol i'r gymuned leol. 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Mae'n bleser gennym gyhoeddi mai'r Atriwm fydd enw'r ganolfan iechyd a llesiant yng Nghaerfyrddin, sy'n talu teyrnged i orffennol hanesyddol y dref tra hefyd yn rhoi enw cryf a chadarnhaol i adeilad a fydd yn cael ei feddiannu gan nifer o bartneriaid i ddarparu gwasanaethau iechyd cymunedol. 

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a gyrwyr am eu hamynedd mewn perthynas â'r system rheoli traffig a fydd ar waith cyn bo hir wrth i'r gwaith adeiladu bellach symud i'r tu allan i'r adeilad. Bydd rhagor o fanylion am gynnydd yr Atriwm yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn wrth i ni edrych ymlaen at agor y cyfleuster yn 2027." 

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae'r Atriwm yn cynrychioli cam pwysig ymlaen yn y ffordd yr ydym yn darparu gofal iechyd yng nghanol ein cymuned. Edrychwn ymlaen at symud i'r adeilad newydd a dod ag ystod eang o wasanaethau iechyd a llesiant at ei gilydd mewn un lleoliad hygyrch. Bydd y dull integredig hwn yn ei gwneud hi'n haws i bobl dderbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt, gwella canlyniadau, a helpu ein poblogaeth i fyw bywydau iachach." 

Dywedodd yr Athro Gareth Davies, Deon y Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Brifysgol yn falch o allu gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu gwasanaethau iechyd, llesiant a hamdden integredig i'r gymuned yng Nghaerfyrddin.  

“Mae'r fenter hon yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr i'n myfyrwyr Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff mewn lleoliad proffesiynol a bydd cleientiaid yn cael y fantais ychwanegol o fod yn agos at y gwasanaethau iechyd a ffitrwydd cyflenwol a gynigir yn yr adeilad. Mae ein presenoldeb yn yr Atriwm yn cyfoethogi'r ystod o gyrsiau Chwaraeon a Byw'n Iach (agor mewn dolen newydd), a gynigir ar ein campws yng Nghaerfyrddin ac edrychwn ymlaen at weithio o fewn yr adeilad aml-asiantaeth hwn a'r manteision y bydd yn eu cynnig".