Neidio i'r prif gynnwy

Anogir brechiad MMR i amddiffyn rhag cynnydd mewn achosion o'r frech goch

young boy with measles rash being checked by doctor

29 Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl ifanc a theuluoedd ar draws gorllewin Cymru i wirio eu statws brechiad rhag y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) a threfnu apwyntiad yn eich meddygfa neu glinig lleol dros yr haf.

Mae’r alwad hon i weithredu yn dilyn marwolaeth ddiweddar plentyn yn Lloegr (agor mewn dolen newydd) a chynnydd sylweddol mewn achosion o’r frech goch ar draws Ewrop(agor mewn dolen newydd).. Gyda lefelau uchel o deithio i’w disgwyl dros yr haf, mae perygl gwirioneddol y bydd y feirws yn dod yn ôl i Gymru ac yn lledaenu mewn cymunedau â llai o frechiadau.

Anogir pobl ifanc yn arbennig i wirio eu cofnodion brechu. P'un a ydych yn ymuno â'r gweithlu neu'n mynd i goleg neu brifysgol, mae cael eich brechu'n llawn yn gam pwysig i ddiogelu eich iechyd ac iechyd pobl eraill.

Mae ffigurau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd) yn dangos y gallai rhai cymunedau yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd â chyfraddau brechu cofnodedig is ymhlith pobl ifanc 18-24 oed ac, mewn rhai achosion, pobl ifanc 11-17 oed, fod yn agored i drosglwyddo parhaus o’r frech goch. Y grwpiau oedran hyn yn aml yw'r rhai mwyaf gweithgar yn gymdeithasol, gan gynyddu'r risg o achosion mwy os cyflwynir y firws.

Er mwyn cefnogi cynnydd yn y nifer sy'n cael eu brechu, mae clinigau brechu lleol (agor mewn dolen newydd) ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cynnig apwyntiadau trwy gydol mis Awst.

Anogir unrhyw un sy’n ansicr o’u statws brechu neu sy’n gwybod eu bod wedi methu dos i ddod ymlaen.

Gellir archebu apwyntiadau drwy ffonio’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk. 

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus:

“Nid salwch ysgafn yw’r frech goch, gall arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig mewn plant ac unigolion bregus. Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn amddiffyn ein hunain a’n cymunedau. Drwy gael eich brechu, rydych nid yn unig yn amddiffyn eich hun, ond rydych yn helpu i atal lledaeniad afiechyd i’r rhai na allant gael eu brechu.”

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR ewch i https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/y-frech-goch-clwyr-pennau-a-rwbela-mmr/ (agor mewn dolen newydd)