Os nad ydych chi neu eich plentyn (5 oed a throsodd) wedi cael eich holl frechlynnau (gweler amserlen imiwneiddio arferol Cymru yma (agor mewn dolen newydd)), ffoniwch ein hyb cyfathrebu ar 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1, llenwch y ffurflen hon (agor mewn dolen newydd) neu ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu apwyntiad.
Mae imiwneiddio yn bwysig i fabanod a phlant ifanc oherwydd bod eu system imiwnedd yn dal yn anaeddfed, felly maent yn fwy agored i haint a chymhlethdodau difrifol.
Gallwch achub bywyd eich plentyn trwy sicrhau ei fod yn derbyn ei holl frechiadau. I gael mwy o wybodaeth am imiwneiddio a'r holl frechiadau argymelledig ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd).
I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech i’ch plentyn dderbyn y brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu, llenwch y ffurflen hon (agor mewn dolen newydd) neu ffoniwch 0300 303 8322 er mwyn i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio’r bwrdd iechyd gysylltu â chi.
Os oes angen i chi ddal i fyny ar frechiadau, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu archebwch apwyntiad yn un o'n clinigau brechu dros dro isod trwy gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk.
Sir Gaerfyrddin
Clwb Rygbi Llanymddyfri, Banc yr Eglwys, Caeau Chwarae, Llanymddyfri, SA20 0BA (10:00 – 16:45)
Dydd Gwener 4 Gorffennaf
Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Hillfield Villas, Heol yr Orsaf, Cydweli, SA17 4UN (09:45 – 16:45)
Eglwys Gymunedol Tŷ Gwyn, Ffordd Vauxhall, Llanelli (09:45-17:00)
Neuadd y Trallwm, 9 Amanwy, Llanelli, SA14 9AH (09:45 – 16:45)
Dydd Iau 24 Gorffennaf
Neuadd Goffa Pontyberem, 9 Heol Coalbrook, Llanelli, SA15 5HU (09:45 – 17:00)
Clwb Wanderers Caerfyrddin, Caeau'r Drindod, Tre Ioan, Caerfyrddin SA31 3NE (10:00-16:45)
Canolfan Gymunedol Cwmaman, Stryd Fawr, Glanaman, Rhydaman, SA18 1DX (10:00 – 16:45)
Dydd Gwener 8 Awst
Neuadd Goffa Llandybie, Woodfield Road, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3UR (10:00 – 16:45)
Dydd Llun 18 Awst
Clwb Athletau Caerfyrddin, Parc Athletau, Heol Alltycnap, Tre Ioan, SA31 3QY (09:45 – 16:45)
Ceredigion
Clwb Rygbi Aberaeron, Dre-Fach, Aberaeron, SA46 0JR (10:00-16:45)
Dydd Iau 17 Gorffennaf
Clwb Rybi Llambed, Ffordd y Gogledd, Llambed, SA48, 7JA (10:00 – 16:45)
Dydd Mercher 23 Gorffennaf
Canolfan Byw’n Iach HAHAV, Plas Antaron, Penparcau, Aberystwyth, SY23 1SF (10:00 – 16:45)
Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, Dol Wiber, Adpar, Castellnewydd Emlyn, SA38 9AZ (09:30 – 16:45)
Sir Benfro
Canolfan Gymunedol Phoenix, Heol Wern, Wdig, Sir Benfro, SA64 0AA (10:00 – 16:45)
Neuadd Pater, Stryd Lewis, Doc Penfro, SA72 6DD (10:00 – 16:45)
Neuadd Regency Saundersfoot, Caeau Chwarae'r Brenin Siôr V, Stryd Aberdaugleddau, Saundersfoot, SA69 9NG (10:00 – 16:45)
Canolfan Gymdeithasol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau, SA73 2QT (10:00 – 16:45)
Clwb Rygbi Hwlffordd, Heol Penfro, Pont Myrddin, Hwlffordd, SA61 1LY (10:00 – 16:45)
Canolfan Gymunedol Bloomfield House, Redstone Road, Arberth, SA67 7ES (10:00 – 16:45)
Dydd Iau 7 Gorffennaf
Canolfan Giraldus, Maenorbŷr, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7TN (10:00 – 16:45)
Dydd Mercher 20 Awst
Nid oes unrhyw riant yn hoffi gweld eu babi neu blentyn yn ofidus pan gânt bigiad, ond dim ond eiliad y mae brechiadau yn ei gymryd ac maent yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae rhai plant yn dioddef rhywfaint o anghysur bach yn syth wedi hynny, ond mae sgîl-effeithiau difrifol yn brin iawn.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch brechu'ch plentyn, cofiwch:
Dylai rhieni sydd â phryderon neu ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddiadau eu plentyn eu trafod â'u meddyg, ymwelydd iechyd neu nyrs practis. Mae rhagor o wybodaeth a thaflenni gwybodaeth i gleifion ar gael yma ar wefan GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd) neu ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd).