Neidio i'r prif gynnwy

Annog trigolion Hywel Dda i gysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn bwcio dos cyntaf brechlyn

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gofyn i bobl gymwys sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro gysylltu os nad ydyn nhw wedi cael apwyntiad brechlyn cyntaf COVID. 

Mae rhaglen brechu torfol y bwrdd iechyd ar y trywydd iawn i gynnig dos cyntaf brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn dydd Sul 18 Ebrill.

Os yw un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol i chi ac nad ydych wedi cael eich apwyntiad brechlyn cyntaf, cysylltwch â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu ar e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk erbyn dydd Gwener 16 Ebrill: 

  • rydych yn 50 oed neu hŷn
  • rydych yn 16 i 64 oed a gennych gyflwr iechyd sy’n bodloi eisoes sy’n eich rhoi mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19
  • rydych yn gweithio mewn cartref gofal neu yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
  • rydych yn brif ofalwr di-dâl am oedolyn hŷn neu anabl sydd mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19, neu am blentyn sydd â niwro-anableddau difrifol

Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa na’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon i ofyn am eich ail apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. 

Mae'r Prif Weithredwr Steve Moore yn annog pobl i gysylltu i sicrhau eu dos brechlyn cyntaf: “Pan wnaethom weinyddu'r brechlyn cyntaf ddechrau mis Rhagfyr roedd hi’n eiliad hynod o arwyddocaol yn y pandemig hwn.

“Ers hynny rydym wedi gweld ymateb ysgubol gan ein cymunedau ar draws y tair sir sydd wedi dod yng nghanol stormydd, eira, glaw a heulwen i gael eu brechlyn.

“Mae ein diolch i'ch ymdrechion chi, yn ystod yr hyn a fu'n aeaf anodd i'r mwyafrif, bod derbyniadau i'n hysbytai yn lleihau a nifer y marwolaethau o Coronafeirws sy'n cael eu riportio yn parhau i fod yn isel iawn.

“Tra bod y brechlyn yn rhoi gobaith inni i’r dyfodol, rhaid i ni barhau i weithredu i atal lledaeniad coronafeirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 ar ymbellhau cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn y rhai o'nch cwmpas."

Mae'r bwrdd iechyd yn medru darparu cymorth cludiant i unrhyw un a allai ei chael hi'n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, soniwch am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni i drefnu eich apwyntiad a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo.

I gael mwy o wybodaeth am raglen brechu torfol BIP Hywel Dda, trowch at https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/  

DIWEDD