Neidio i'r prif gynnwy

Annog pobl â symptomau ehangach i archebu prawf COVID-19

Anogir pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael prawf COVID-19 am ddim os oes ganddynt ystod ehangach o symptomau, i helpu i nodi achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau a lleihau nifer y trosglwyddiadau.

Yn flaenorol, dim ond y rhai â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli/newid blas ac arogl, a gynghorwyd i geisio prawf. Bellach, mae pobl ag unrhyw un o'r symptomau ehangach canlynol sy'n barhaus a/neu'n anarferol iddynt, hefyd yn cael eu hannog yn gryf i gael prawf PCR:

  • Symptomau annwyd yr haf - gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
  • Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (cyhyrau poenus); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
  • Teimlo'n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol yn flaenorol

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau uchod, arhoswch adref ac archebwch brawf PCR trwy borth y DU https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119.

Wrth archebu'ch prawf PCR, gofynnir i chi hefyd am eich symptomau: os oes gennych symptomau ehangach annwyd haf neu debyg i ffliw fel y disgrifir uchod, yn hytrach na'r tri symptom clasurol, dewiswch 'Dim un o'r symptomau hyn' ac yna dewiswch un o'r opsiynau canlynol i'ch galluogi i gwblhau'r archeb:

  • Mae fy nghyngor lleol neu dîm diogelu iechyd wedi gofyn imi gael prawf, er nad oes gen i symptomau neu;
  • Rydych chi'n rhan o brosiect peilot y llywodraeth neu;
  • Mae meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi gofyn imi gael prawf.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae nodi heintiau, a allai fel arall fynd heb eu canfod, yn arbennig o bwysig wrth i amrywiadau newydd o’r firws ddod i’r amlwg. Po fwyaf o brofion a gynhelir, yr hawsaf fydd hi i adnabod clystyrau cynnar o achosion a mwtaniadau posib o’r firws.

“Rydym yn gwybod am y grŵp ehangach o symptomau mewn perthynas â COVID-19 ond ni sonnir amdanynt mor aml â’r tri symptom clasurol. Ein nod yw dod o hyd i gynifer o achosion COVID-19 â phosib fel y gallwn atal trosglwyddiad y firws i eraill. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â'r pandemig i ben mor gyflym â phosib a helpu i godi'r cyfyngiadau."

Os ydych wedi cael prawf COVID-19, rhaid i chi barhau i hunan-ynysu nes i chi gael gwybod eich canlyniad, a fydd fel arfer o fewn 24 awr i'r prawf. Os yw'ch canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o'r dyddiad y dechreuodd eich symptomau. Bydd y Tîm Olrhain lleol yn cysylltu â chi hefyd. Os yw'ch canlyniad yn negyddol, gallwch chi ddod â'ch hunan-ynysu i ben, pan fyddwch chi'n teimlo'n ddigon da i wneud hynny.