Neidio i'r prif gynnwy

Amddiffyn eich plentyn rhag y ffliw y gaeaf hwn

05 Hydref 2022

Os yw eich plentyn yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11, cadwch olwg am ffurflen ganiatâd yn eu bag a’i dychwelyd i’r ysgol i’w galluogi i dderbyn brechlyn chwistrell trwyn y ffliw eleni.

Bydd timau nyrsio ysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn ymweld â phob ysgol gynradd ac uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro rhwng mis Medi a’r Nadolig i ddarparu’r brechlyn ffliw trwynol, ffordd gyflym a di-boen o amddiffyn eich plentyn rhag feirws y ffliw.

Dywed Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Mae ffliw yn cael ei achosi gan firysau ac mae’n lledaenu’n hawdd. Gall unrhyw un gael y ffliw ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt.

“Gall cymhlethdodau gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau clust.

“Mae’r brechlyn fel arfer yn cynnig amddiffyniad da i blant rhag y ffliw. Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

“Rwy’n annog rhieni i achub ar y cyfle hwn ac anfon eu ffurflenni caniatâd mewn pryd i helpu i gadw’ch plant a Hywel Dda yn ddiogel.”

Bydd plant dwy neu dair oed ar 31 Awst 2022 yn cael eu gwahodd gan eu meddygfa i dderbyn y brechlyn ffliw chwistrell trwyn.

Os yw'ch plentyn rhwng 6 mis a 2 oed a bod ganddo gyflwr iechyd hirdymor sy'n ei wneud mewn mwy o berygl o gael y ffliw, bydd yn cael cynnig pigiad brechlyn ffliw yn lle'r chwistrell trwyn.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau (agor mewn dolen newydd)