Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn estyn allan at bob claf y mae ei lawdriniaethau wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig Covid-19 wrth i ni geisio ailgychwyn cymaint o lawdriniaethau a gynlluniwyd â phosibl.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi bod ar restr aros am hyd at 52 wythnos i sefydlu a oes angen llawdriniaeth arnynt o hyd. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cysylltu â phobl ar restrau aros eraill wrth i ni baratoi ar gyfer ailgychwyn gofal dewisol yn ein hysbytai.
O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu'n rhaid i'r bwrdd iechyd ganslo nifer fawr o lawdriniaethau fel y gallai ein staff a'n hadnoddau gael eu hadleoli yn ein hysbytai acíwt. Yn anffodus, mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar gleifion sydd wedi bod yn aros i gael llawdriniaeth arferol - rydym am fynegi ein hymddiheuriadau dwysaf.
Er na allwn eto roi ateb pendant ynghylch pryd y bydd llawfeddygaeth arferol yn cael ei hailgychwyn, ein nod yw ailgychwyn cymaint ag y gallwn o fewn cyfyngiadau'r pandemig parhaus, gan gydnabod bod tonnau pellach o feirws Covid-19 yn dal yn bosibl. Yr eithriad i hyn yw llawdriniaethau i'r rheini yr ystyrir eu bod glinigol frys a chleifion ar lwybrau canser, yr ydym wedi parhau i'w cynnal trwy gydol y pandemig.
Yn y cyfamser rydym yn cynnig mynediad at ystod o adnoddau ar-lein a ddatblygwyd gan glinigwyr yn Hywel Dda fel y gall cleifion helpu i reoli eu cyflyrau wrth iddynt aros - gellir cael mynediad yma:
Paratoi ar gyfer Triniaeth – Cyngor ar ffordd o fyw - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Yn yr un modd ag ymddiriedolaethau’r GIG a byrddau iechyd ledled y wlad, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar y ffordd yr ydym yn gallu darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, ac rydym yn ymddiheuro i bawb sy'n aros am lawdriniaeth am y siom y gwyddom y bydd hyn yn ei achosi.
“Mae ein timau clinigol a darparu gwasanaethau yn gweithio’n hynod o galed i gynyddu nifer y bobl y gallwn eu trin, ond rydym yn wynebu ôl-groniad sylweddol a byddem yn apelio ar gleifion i ymddiried ynom ni wrth i ni ailgychwyn y gwasanaethau hyn ac yn y pen draw ceisio dychwelyd at lefelau arferol o weithgaredd.
“Yr hyn y mae’r pandemig wedi’i ddangos inni yw bod angen i ni wella’r ffordd yr ydym yn hysbysu cleifion ac yn ymgysylltu â hwy am wasanaethau yn y tymor hir, ac yn y dyfodol byddwn yn edrych i ddatblygu system fwy cydgysylltiedig ar gyfer cyfathrebu ac ymateb i gwestiynau mewn modd amserol, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol a sicrhau mynediad at gyngor a chefnogaeth glinigol yn ôl yr angen.
“Yn y cyfamser hoffem annog cleifion sy’n aros am driniaethau dewisol i ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein lle bynnag y bo modd, gan y bydd rhain yn helpu gyda reoli eich cyflyrau wrth iddych aros. Byddem hefyd yn annog cleifion yn gryf i roi gwybod i ni os nad oes angen i chi fod ar restr aros mwyach, ac yn benodol, byddem yn annog unrhyw un sy'n cael apwyntiad i'w dderbyn a pheidio ag aros i gael ei frechu yn erbyn Covid-19 cyn mynychu.”