Mae cynlluniau i gynnal ail ddigwyddiad galw-heibio i’r cyhoedd yn Llanymddyfri i drafod syniadau a gofyn cwestiynau ynghylch darpariaeth gofal iechyd yn ysbyty ac Uned Mân Anafiadau’r dre wedi’i ohirio.
Mae’r cyfarfod, a oedd i’w gynnal ddydd Mawrth 17 Mawrth, wedi’i ohirio fel mesur rhagofalus i ganiatáu i’r bwrdd iechyd ryddhau uwch-staff meddygol i reoli’r achosion Coronfeirws yn Hywel Dda.
Meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol y bwrdd iechyd: “Braf iawn oedd gweld bod dros 500 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad diwethaf. Roedd cryfder teimlad ac angerdd y gymuned yn amlwg iawn.
“O ganlyniad i’r presenoldeb niferus hwn, roeddwn wedi gwneud cynlluniau i gynnal digwyddiad dilynnol yn fuan wedi’r cyntaf fel bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa ddiweddar o ran Coronafeirws, rydym wedi penderfynu gohirio’r digwyddiad i ddyddiad arall yn y dyfodol.
“Yn y cyfamser, rydym yn gweithio ar ddwyn yr holl adborth o’r digwyddiad cyntaf ynghyd, yn cynnwys mwy na 28 tudalen o themâu, materion a sylwadau trosfwaol; cannoedd o ymatebion ar ffurflenni adborth a chydraddoldeb; adborth o dudalen Facebook Love Llandovery, a llythyrau a negeseuon ebost sydd wedi dod i law.
“Hoffwn ailadrodd bod Ysbyty Llanymddyfri o bwysigrwydd strategol i’r bwrdd iechyd gan ei fod yn darparu gwasanaethau pwysig iawn ar gyfer y boblogaeth leol. Fel y mynegir yn ein strategaeth iechyd a gofal, rydym am ddyfodol disglair i’r ysbyty.”
Ychwanegodd y Meddyg Teulu GP Dr John Rees o Feddygfa Llanfair: “Ar ran Meddygfa Llanfair, staff Ysbyty Llanymddyfri a’n cleifion un ac oll, hoffwn fynegi fy niolch i’r bwrdd iechyd am gynnal y cyfarfod galw-heibio cyhoeddus ym mis Chwefror. Roedd yn rhyfeddol gweld dyfnder y teimlad a’r teyrngarwch sydd gan ein poblogaeth leol ar gyfer Ysbyty Llanymddyfri.
“Cadarnhaol iawn oedd clywed ymrwymiad nifer o uwch-aelodau’r bwrdd iechyd ynghylch dyfodol hir-dymor Ysbyty Llanymddyfri.”