Neidio i'r prif gynnwy

Agorwyd Dol Helyg yn swyddogol yn Ysbyty Llwynhelyg

27 Awst 2024

Heddiw (27 Awst) agorodd Dol Helyg, man gwyrdd heddychlon sy’n cynnig noddfa o fewn natur i gleifion, staff ac ymwelwyr i ffwrdd o amgylchedd prysur yr ysbyty, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Wedi’i hariannu gan grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru i Bartneriaeth Natur Sir Benfro, gyda chyflwyniad y prosiect gan Gyngor Sir Penfro, mae’r ardd yn gorchuddio 2,500 metr sgwâr o fannau gwyrdd hygyrch ar dir yr ysbyty.

I nodi’r agoriad swyddogol, plannodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, goeden ddraenen wen yn yr ardd mewn seremoni a fynychwyd gan y rhai a helpodd i ddod â’r ardd yn fyw, ochr yn ochr â staff a chleifion o uned eiddilwch yr ysbyty.

Dywedodd Dr Neil Wooding: “Mae’n anrhydedd agor y Dol Helyg yn Ysbyty Llwynhelyg yn swyddogol. 

“Mae’r ardd yn ychwanegiad gwych i dir yr ysbyty, gan ddarparu noddfa, seibiant ac ymlacio o fewn natur i’n staff, cleifion ac ymwelwyr. 

“Fel bwrdd iechyd rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella ansawdd yr amgylcheddau ffisegol yr ydym yn gweithio ynddynt ac yn darparu gofal a chynyddu mynediad at natur. 

“Bydd gwella’r mannau gwyrdd yn ein cymuned a safleoedd ysbytai ac o’u cwmpas yn dod â buddion i staff, cleifion, ymwelwyr, cymunedau lleol a’r byd naturiol.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o ddod â’r ardd hon i realiti a gobeithio y bydd y rhai sy’n ymweld yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.”

Dywedodd Suzanne Tarrant, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Gwasanaeth Lles Seicolegol Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd i agor y gofod naturiol hwn yn swyddogol i staff, cleifion ac ymwelwyr i gamu i ffwrdd o amgylchedd ysbyty sydd weithiau'n llawn straen ac yn anghyfarwydd er mwyn ailgysylltu â natur.

“Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy’n dangos sut y gellir gwella ein hiechyd a’n lles drwy dreulio amser ym myd natur a gwella ansawdd a bioamrywiaeth ein hamgylchedd naturiol.

“Y tu hwnt i synau a golygfeydd yr ysbyty, gall ymwelwyr a staff gerdded y tiroedd hyn, mwynhau’r planhigion toreithiog, gwrando ar gân yr adar a dod o hyd i eiliadau o adferiad ym myd natur.” 

Dros yr wythnosau nesaf, bydd staff yr ysbyty yn cael y cyfle i greu darn o gelf gymunedol, wedi’i hwyluso gan yr artist helyg Tina Cunningham o Ecolististic Artworks, yn ogystal â chreu peillwyr helyg bach i’w hychwanegu at yr ardd.