Bydd yr Uned Mân Anafiadau (MIU) yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi yn ailagor i gleifion o ddydd Llun 25 Ionawr 2021.
Bydd yr Uned, a gaewyd dros dro ym mis Rhagfyr i alluogi adleoli staff i gefnogi ymateb COVID-19 yng Ngheredigion, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 4.30pm.
Atgoffir pobl i beidio â mynychu'r MIU os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19, os gofynnwyd i chi hunan-ynysu, neu os ydych yn aros am ganlyniad prawf Covid-19. Os oes angen i chi ymweld â'r MIU, mynychwch eich pen eich hun lle bo hynny'n bosibl, gwisgwch orchudd wyneb addas a chadwch at y rheolau pellter cymdeithasol 2m bob amser.
Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr y Sir (Ceredigion) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o allu dychwelyd MIU Aberteifi i wasanaeth llawn a hoffem ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra bod yr Uned ar gau dros dro yn ddiweddar."