11 Mawrth 2026
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn ac wedi canfod methiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae adroddiad ar ganlyniadau ymchwiliad yr Ombwdsmon wedi'i anfon at y Bwrdd Iechyd.
Roedd y gŵyn yn ymwneud â methiannau yn y gwasanaeth Offthalmoleg.
Mae copi o'r adroddiad ar gael ar ein gwefan ac i'w archwilio gan y cyhoedd, am ddim, yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Corfforaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ail Lawr, Bloc C, Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin, SA31 3BT, a hynny am gyfnod o dair wythnos o ddydd Mercher, 11 Mawrth 2026.
Gall unrhyw un sy'n dymuno gwneud hynny gymryd copi o'r adroddiad hwn neu ddarnau ohono.
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
"Rydym yn cydnabod canfyddiadau adroddiad yr Ombwdsmon ac mae'n ddrwg gennym am y methiannau a nodwyd a'r effaith ar y claf oedd dan ein gofal a'i theulu.
"Rydym yn cydnabod bod methiannau sylweddol yn y ffordd y gwnaethom ymdrin â thrin ein claf a arweiniodd at iddi ddioddef nam sylweddol ar ei golwg. Ymddiheurwn yn llwyr am y methiannau hyn.
"Nid dyma’r lefel o wasanaeth yr ydym am ei darparu i’n cleifion a byddwn yn ymdrechu i wneud yn well. Rydym yn derbyn argymhellion yr Ombwdsmon ac wedi dechrau gweithio ar ffyrdd y gallwn wella."
Mae'r gwelliannau yn cynnwys mwy o lefelau staffio a sefydlu rôl cydlynydd glawcoma.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cyflwyno proses haenu glawcoma – dull systematig o gategoreiddio cleifion yn seiliedig ar eu risg o golled golwg sylweddol. Mae'r broses hon yn hanfodol ar gyfer penderfynu ar y llwybrau gofal priodol a dyrannu adnoddau.
Mae cyflwyno llwybr 4 Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru ar gyfer glawcoma wedi sefydlu optometryddion glawcoma tra hyfforddedig yn y gymuned, sy'n golygu bod cleifion glawcoma addas yn cael eu rhyddhau am ofal yn nes at adref.
Mae'r gwasanaeth offthalmoleg yn symud tuag at ddefnyddio Open Eyes, system cofnodion cleifion electronig a fydd yn cefnogi gwelliant mewn cadw cofnodion.
Mae'r modiwl glawcoma ar hyn o bryd yn ei gam prawf ond disgwylir iddo fod ar gael yn fuan. Bydd y modiwl hwn yn cynnwys templedi llythyrau safonedig gyda meysydd data gorfodol fel pwysedd llygaid.
Bydd hyn, yn ei dro, yn gwella ansawdd a chysondeb y llythyrau a bydd yn gyson â chofnodion Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan sicrhau rhannu gwybodaeth mewn modd ddi-dor i gleifion yn y dyfodol.
Mae'r gwaith rhanbarthol yn parhau ym maes offthalmoleg, trwy'r Bwrdd Rhaglen Gofal Llygaid Rhanbarthol, sy'n canolbwyntio ar gyflwyno glawcoma fel blaenoriaeth.
I gael rhagor o wybodaeth ac am adroddiad llawn yr Ombwdsmon, dilynwch y ddolen: https://biphdd.gig.cymru/adroddiad-budd-y-cyhoedd