Gwelir yn y llun uchod: O'r chwith i'r dde - Katie Lloyd, Nyrs Glinigol Arbenigol; Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda; Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Josh Jones; Davi Davies
31 Ionawr 2022
Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda estyn ei ddiolch a’i werthfawrogiad dyfnaf i’r holl wirfoddolwyr yn ein canolfannau brechu torfol COVID-19 am eu cyfraniad amhrisiadwy tuag at gyflwyno un o’r rhaglenni brechu mwyaf yn hanes y GIG.
Ers dechrau’r rhaglen frechu ym mis Rhagfyr 2020, mae dros 400 o wirfoddolwyr wedi dod gam ymhellach a thu hwnt i helpu yn ein canolfannau brechu torfol. Mae hyn wedi cynnwys pobl o wahanol feysydd a grwpiau oedran - o feddygon wedi ymddeol, nyrsys ac arolygwyr heddlu i fyfyrwyr, gwyddonwyr ymchwil, cyfrifwyr, pobl sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cwsmeriaid a lletygarwch, ymatebwyr cyntaf yn y llu awyr, hyfforddwyr gyrru, cynorthwywyr addysgu a hyd yn oed cyn wirfoddolwr yn Wimbledon. Mae llawer o staff ar draws y GIG hefyd wedi gwirfoddoli ac wedi chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y rhaglen fawr hon.
Mae Josh Jones a Davi Davies, dau o nifer o wirfoddolwyr o'r fath, yn rhannu eu profiad o fod yn rhan o'r rhaglen.
Roedd Josh yn bwriadu gwneud meddygaeth ond ni allai gael ei brofiad gwaith yn yr ysbyty oherwydd y pandemig COVID-19. Yna penderfynodd y byddai'n gyfle perffaith i helpu mewn canolfan frechu torfol yn lle hynny. Meddai : “Llwyddais i ymuno â’r rhaglen ac rydw i wedi bod yn helpu ers hynny. Mae’n rhoi boddhad mawr, yn ogystal â chael rhywfaint o brofiad gwaith yn amlwg, a dyna oedd ei angen arnaf.
“Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran datblygiad personol a dysgu cyfathrebu â phobl newydd, yn ogystal â’r boddhad a gewch o wneud swydd dda a gallu helpu pobl.”
Mae Davi a'i wraig wedi gwirfoddoli mewn ysbytai a fferyllfeydd o'r blaen, a phan ddechreuodd y rhaglen frechu, fe benderfynon nhw helpu. Dywedodd Davi : “Rydw i yma i helpu pobl. Dyna’r rheswm pam dwi’n gwirfoddoli. Pan welwch chi berson rydych chi'n ei helpu o'r car i mewn i'r ganolfan a phrin y gallan nhw gerdded, ac weithiau mae angen cadair olwyn i'w helpu, mae gwybod y gallwch chi wneud rhywfaint o wahaniaeth yn rhan o’r rheswm pam fy mod yma”
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae wedi bod yn wych gweld nifer y bobl sydd wedi dod ymlaen i gynnig eu cefnogaeth i un o’r rhaglenni mwyaf yn hanes y GIG.
“Er bod y pandemig wedi dod â llawer o heriau yn ei sgil, mae’r rhaglen frechu, a’r holl wirfoddolwyr a ddaeth ynghyd o gefndiroedd mor amrywiol wedi bod yn dwymgalon.
“Ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflwyno’r rhaglen frechu torfol yn gyflym ac yn llwyddiannus heb gyfraniadau diflino’r holl staff a gwirfoddolwyr a gymerodd ran yn y canolfannau brechu torfol. Hoffwn ddiolch o galon ar ran pawb yn y bwrdd iechyd i bob un ohonoch sydd wedi rhoi eich amser i’r GIG a rhaglen frechu torfol COVID-19. “
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni hefyd, gallwch ymweld â:
https://biphdd.gig.cymru/swyddi/gwirfoddoli/ (agor mewn dolen newydd) neu cysylltwch â’r tîm gwirfoddoli ar HDD.FutureWorkforceTeam@wales.nhs.uk i ddarganfod mwy.