Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Llwynhelyg yn gweld cynnydd pellach yn dilyn gwaith RAAC

Arwydd Ysbyty Llwynhelyg

29 Hydref 2024

Bydd y rhan fwyaf o’r clinigau cleifion allanol yn Ysbyty Llwynhelyg, sydd wedi’u hadleoli i leoliadau eraill yn sgil darganfod planciau Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) diffygiol, bellach yn dychwelyd i’r safle.

Bu'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gau adeilad Cleifion Allanol A yn ysbyty Llwynhelyg er mwyn cwblhau gwaith arolygu hanfodol.

Nawr mae'r rhan hon o safle'r ysbyty yn gwbl weithredol ac yn barod i groesawu cleifion.

Daeth yr holl wasanaethau Cleifion Allanol yr effeithiwyd arnynt gan waith RAAC - gan gynnwys Gastroenteroleg, Meddygaeth Gyffredinol a Llawfeddygaeth Blastig (gyda chlinigwyr yn ymweld o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) - o hyd i gartrefi dros dro tra bod yr adeilad yn cael ei atgyweirio.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau Cleifion Allanol a gafodd eu hadleoli wrth i ni weithio i atgyweirio ardaloedd clinigol cleifion allanol yr effeithiwyd arnynt gan RAAC bellach wedi dychwelyd i Lwynhelyg.”

Oherwydd bod ymgynghoriadau cleifion allanol wedi dychwelyd i Lwynhelyg, gofynnir i gleifion wirio eu gohebiaeth apwyntiad i sicrhau eu bod yn mynd i'r lleoliad cywir ar gyfer eu hapwyntiadau.

Dywedodd Mr Carruthers y byddai'r bwrdd iechyd yn ysgrifennu at gleifion i gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad apwyntiadau neu ffonio cleifion y mae eu hapwyntiadau ar fin digwydd.

“Rydym yn annog pawb i ddarllen y llythyr apwyntiad yn ofalus a nodi unrhyw newid lleoliad, gan y gallai apwyntiadau a gynhaliwyd yn flaenorol mewn safleoedd gofal iechyd cymunedol fod wedi dychwelyd i Llwynhelyg bellach,” meddai Mr Carruthers.

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Cadarnhawyd ei bresenoldeb yn Ysbyty Llwynhelyg ym mis Ionawr 2022.

Er i'r holl wardiau yr effeithiwyd arnynt gan RAAC gael eu hailagor ym mis Ebrill eleni, bydd gwaith yn parhau tan fis Ebrill 2025 ar waith adfer i loriau gwaelod yr ysbyty a bydd angen cau'r wardiau yr effeithir arnynt dros dro tra bydd gwaith ail arolygu yn digwydd ar ddiwedd eleni ac i mewn i 2025.

Bydd arolygon yn dechrau ar yr ardaloedd llawr gwaelod yr effeithir arnynt gan RAAC yn ystod 2025 ac i mewn i 2026.

Fodd bynnag, mae'r gegin bellach wedi ail-agor ac mae'r ardal Therapïau - gan gynnwys Ffisiotherapi - ar amser i ailagor ganol mis Tachwedd.

Dechreuodd y gwaith ar yr ardal Gofal Brys ar yr Un Diwrnod (SDEC) ym mis Awst a disgwylir i'r gwaith ddod i ben erbyn diwedd mis Hydref ac yn weithredol erbyn canol mis Tachwedd. Disgwylir i'r gwaith ar y Fferyllfa ddechrau ym mis Tachwedd a'i gwblhau o fewn y mis.

“Rydyn ni’n gwybod bod y gwaith arolygu a’r camau adferol wedi achosi cryn aflonyddwch a phryder ymhlith aelodau ein cymuned, ac rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir,” meddai Mr Carruthers.

 “Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i staff ysbytai, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd diwethaf tra rydym wedi bod yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”

Os oes gan gleifion unrhyw bryderon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt, fe’u cynghorir i gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros drwy ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 3 neu e-bostio.  ask.hdd@wales.nhs.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am y mater RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg i’w gweld ar ein tudalen bwrpasol ar ein gwefan RAAC - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (agor mewn ffenest newydd).

DIWEDD