Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Bronglais yw'r cyntaf yn Hywel Dda i berfformio sgan MRI ar glaf gyda rheolydd calon.

29 Mehefin 2022

Roedd staff yn Ysbyty Bronglais yn dathlu’r wythnos hon ar ôl dod y cyntaf yn Hywel Dda i berfformio sganiau MRI ar gleifion â rheolyddion calon, gan baratoi’r ffordd ar gyfer gwelliannau mewn ansawdd a mynediad at ofal yn y dyfodol.

Tan yn ddiweddar iawn, ystyriwyd bod y risg sy'n gysylltiedig â defnyddio MRI i sganio cleifion â rheolyddion calon yn rhy uchel oherwydd effaith bosibl y lefelau uchel o fagnetedd ar weithrediad y rheolydd calon. Mae hyn wedi arwain at oedi sylweddol o ran diagnosis a thriniaeth.

Yn y gorffennol roedd cleifion gyda rheolyddion calon, yn aros am sgan, yn gorfod teithio i Ysbyty Treforys yn Abertawe - neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd - yn wynebu rhestrau aros hir am archwiliadau o'r fath.

Mae datblygiadau diweddar mewn technoleg delweddu a rheolydd calon bellach yn galluogi cleifion â rheolyddion calon a dyfeisiau cardiaidd eraill sydd wedi'u mewnblannu i gael eu sganio'n ddiogel gan MRI. Cynhelir yr archwiliad yn dilyn adolygiad gan Radiolegydd Ymgynghorol, Ffisiolegydd Cardiaidd, Radiograffydd MRI a chyda chymorth gwyddonol gan y Gwasanaeth Ffiseg Feddygol. Yn ystod y sgan, mae tîm gofal uwch yn bresennol i fonitro'r claf a sicrhau ei ddiogelwch.

Er nad oes data ar gael ar gyfer Cymru, amcangyfrifir bod 400,000 o gleifion â dyfeisiau cardiaidd wedi'u mewnblannu yn Lloegr gyda 50,000 o fewnblaniadau newydd bob blwyddyn. Mae’r defnydd posibl o MRI hefyd yn ehangu felly mae’r tebygolrwydd y bydd claf â rheolydd calon angen sgan MRI hefyd yn cynyddu.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn bwriadu cyflwyno hwn ar draws ei holl wasanaethau MRI yn seiliedig ar y gwaith y mae Bronglais wedi'i wneud ac mae'n edrych ymlaen at leihau'r teithio y mae'n rhaid i gleifion ei wneud i gael mynediad at wasanaethau.

Dywedodd Matthew Willis, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Bronglais: “Mae bob amser yn bleser clywed sut mae gweithio mewn tîm yn arwain at welliannau i gleifion o ran ansawdd a hygyrchedd y gofal y maent yn ei dderbyn. Hoffwn ddiolch i’r timau radioleg a chardiaidd ym Mronglais, a thu hwnt, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r gwelliant hwn i’n cleifion.”

Ychwanegodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Mae’n amlwg bod y tîm arloesol a blaengar ym Mronglais wedi ymrwymo i ddatblygiad parhaus y gwasanaethau a gynigiwn fel bwrdd iechyd a bydd y gwasanaethau hyn o fudd i gleifion y Canolbarth, a mwy ohonynt yn gallu cael eu hanghenion gofal iechyd wedi'u diwallu gan eu hysbyty lleol”.