Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn monitro'r sefyllfa yn agos yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri ac Ysbyty Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, lle mae nifer o gleifion wedi profi'n bositif am COVID-19.
Mae cleifion ar y ddau safle yn derbyn gofal ar eu pennau eu hunain ac yn unol â chanllawiau atal heintiau COVID-19, gyda defnydd priodol o Offer Amddiffynnol Personol a phellter cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae nifer o staff, gan gynnwys nyrsys, ar y ddau safle wedi profi'n bositif am COVID-19 ac yn hunan-ynysu. Mae hyn wedi arwain at gyfyngiadau sylweddol ar y gweithlu ar y ddau safle, sydd wedi golygu bod cynnal gwasanaethau nyrsio cymunedol ac ysbytai cymunedol wedi bod yn her.
Mewn ymateb, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid cymunedol, gan gynnwys meddygon teulu lleol a'r Cyngor Iechyd Cymunedol, yn datblygu cynlluniau ar gyfer mesurau wrth gefn dros dro i sicrhau y gall barhau i ddarparu gofal diogel i gleifion. Cytunir ar gynllun terfynol ddydd Llun 30 Tachwedd.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Thymor Hir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae COVID-19 yn her enfawr sy’n effeithio arnom ni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel y mae sefydliadau eraill y GIG ledled y DU. “Rydym yn wynebu sefyllfa frys yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri ac Ysbyty Dyffryn Aman, ond gallaf sicrhau cleifion, eu teuluoedd, a’r cymunedau lleol y byddai unrhyw newidiadau a wnawn dros dro ac er budd y cleifion.
“Er ein bod yn cydnabod bod gennym heriau staffio, yn enwedig o ganlyniad i COVID-19, mae ein staff yn gweithio’n eithriadol o galed i barhau i ddarparu’r gofal gorau un o ystyried yr amgylchiadau anodd ac rwy’n cymeradwyo eu hymdrechion anhygoel.”
Dywedodd Dr Granville Morris, o Ysbyty Dyffryn Aman: “Lles cleifion yw ein prif flaenoriaeth felly bydd unrhyw benderfyniad a wneir er eu budd hwy. Mae ein staff wedi gweithio’n ddiflino byth ers yr achos positif cyntaf o COVID-19 yn Ysbyty Dyffryn Aman, ac rwy’n falch iawn ohonynt. ”
Os oes gennych unrhyw symptomau o COVID-19 - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas - arhoswch gartref ac archebwch brawf trwy borth y DU.