Neidio i'r prif gynnwy

Yn ail yng Ngwobrau Chwarae Iechyd Starlight 2022

10 Hydref 2022

Mae timau chwarae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ysbytai Glangwili, Bronglais a Llwynhelyg wedi’u cydnabod yn ail yn Nhîm Chwarae’r Flwyddyn yng Ngwobrau Chwarae Iechyd Starlight eleni.

Yr wythnos hon, mae’r bwrdd iechyd yn dathlu Wythnos Chwarae yn yr Ysbyty (10 – 14 Hydref 2022) gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o fanteision chwarae wrth drin plant sy’n ddifrifol wael.

Mae timau chwarae’r byrddau iechyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant mewn ysbytai, gan eu grymuso i ddeall mwy am eu triniaeth, datblygu technegau ymdopi, tynnu eu sylw yn ystod gweithdrefnau a chefnogi eu hiechyd meddwl tra’u bod yn cael triniaeth.

Dywed Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Rydym yn gweithio i wneud swyddi meddygon a nyrsys yn haws fel y gallant ganolbwyntio ar ochr feddygol pethau. Mae chwarae mor bwysig, mae gan bob plentyn hawl ac mae mor bwysig eu bod yn cael hynny pan fyddant yn dod i’r ysbyty. Mae’n ymwneud â normaleiddio’r hyn y byddai plentyn yn ei wneud gartref fel arfer, fel chwarae gyda theganau.”

“Mae mor hyfryd cael y wobr hon. Rydym yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth yn fawr; mae'n dangos nad yw'r gwaith caled rydyn ni'n ei wneud yn mynd heb i neb sylwi. Dim ond tîm bach ydyn ni, felly bydd yn rhoi hwb mawr i ni i gyd.”

Mae Starlight yn elusen sy’n defnyddio pŵer chwarae i wneud y profiad o salwch a thriniaeth yn well i blant a’u teuluoedd. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei wneud, ewch i: https://www.starlight.org.uk/about-us/ (agor yn ddolen newydd)