Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau Maeth a Ffordd o Fyw ar gyfer pobl â diabetes

13 Mehefin 2022

Mae gwasanaeth Maetheg a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ehangu’r cymorth a’r addysg y gall eu cynnig i bobl â diabetes.

I bobl â diabetes math 1, gall y gwasanaeth nawr gynnig:

  • Sesiynau grŵp dan arweiniad deietegydd sy'n edrych ar gynyddu sgiliau cyfrif carbohydradau (naill ai sesiwn untro, tair sesiwn awr, neu ddwy sesiwn awr a hanner).
  • Ymgynghoriad 1:1 gyda deietegydd diabetes arbenigol.
  • DAFNE* a Pwmp DAFNE (*Addasiad dos ar gyfer bwyta'n normal)- Mae hyn yn cynnwys pum sesiwn addysg strwythuredig gyda nyrs diabetes arbenigol a deietegydd diabetes arbenigol. Mae sesiynau o bell yn dair awr, ynghyd ag amser darllen ychwanegol. Cynhelir sesiynau wyneb yn wyneb rhwng 9am a 5pm.

*Dylai pobl fod o dan ofal diabetes eilaidd i gael eu hystyried ar gyfer DAFNE.

Yn y cyfamser, i'r unigolion hynny sydd â diabetes math 2, gall y gwasanaeth gynnig:

  • Sesiwn addysg grŵp strwythuredig dwy awr un-tro - ar gyfer gwybodaeth llinell gyntaf am ddeiet a ffordd o fyw sy'n trafod carbohydradau, deiet cytbwys iach, ymarfer corff a rheoli pwysau - dim ond ar gyfer y rhai sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 2 (llai na thri mis o'r diagnosis).
  • Rhaglen Atal Diabetes trwy ymyriad maethol a ffordd o fyw dwys ar gyfer unigolion brwdfrydig sy'n gobeithio cael rhyddhad.
  • Ymgynghoriad 1:1 gyda deietegydd ar gyfer unigolion nad ydynt yn dymuno cymryd rhan mewn addysg grŵp neu sydd â chymhlethdod o ran rheoli eu diabetes math 2.
  • Rhaglen Addysg Strwythuredig Inswlin XPERT / XPERT gynhwysfawr chwe wythnos - ar gael naill ai fel opsiynau wyneb yn wyneb neu rithwir.

Dywedodd Laura Jones, Deietegydd Diabetes Arweiniol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae addysg maeth a ffordd o fyw yn hanfodol ar gyfer rheoli Diabetes Math 1 a Math 2. Ein nod fel gwasanaeth deieteg yw gallu cynnig cyfres o opsiynau, fel y gall pobl â diabetes deimlo eu bod wedi'u grymuso i reoli eu cyflwr eu hunain ar ôl derbyn addysg a chymorth hanfodol gan ein tîm. Rydym yn falch iawn o gynnig y gwasanaethau ychwanegol hyn ar draws y tair sir.”

I gyfeirio at unrhyw un o'r uchod, defnyddiwch y ffurflen atgyfeirio Maetheg a Deieteg gymunedol. Neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01437 774334 drwy e-bostio DiabetesDietitians.HDD@wales.nhs.uk.