Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn cydweithrediad â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion (agor mewn dolen newydd) a Cyngor Sir Ceredigion (agor mewn dolen newydd), yn gyffrous i gyhoeddi Sioe Iechyd a Lles Llanbedr Pont Steffan 2025.
Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn ddydd Mercher 26 Chwefror, rhwng 10:00am a 3:00pm yng Nghanolfan Llesiant Llanbedr Pont Steffan, a elwid gynt yn Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan, yn Peterwell Terrace, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BX.
Nod Sioe Iechyd a Lles Llambed yw darparu cyngor a gwybodaeth werthfawr i’r gymuned, gan hybu iechyd a lles trwy amrywiaeth o weithgareddau difyr a stondinau llawn gwybodaeth.
Bydd y mynychwyr yn cael y cyfle i ryngweithio gyda dros ugain o stondinau yn cynnwys gwasanaethau a thimau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed Powys, a sefydliadau trydydd sector gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Dîm Iechyd Meddwl Camfan, Choices, Llais Cymru, Papyrus, a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO).
Bydd pobl i siarad â nhw am les yn gyffredinol, ac yn benodol am roi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach, gwasanaethau fferyllfa, iechyd meddwl, atal hunanladdiad, camddefnyddio sylweddau, ac ati. Hefyd bydd cyfleoedd ar gyfer pwysedd gwaed, gwiriadau curiad y galon a chyngor yn ymwneud â heneiddio’n iach ac atal codymau.
Drwy gydol y dydd bydd amrywiaeth o weithgareddau cynhwysol o ddartfwrdd aer a phêl-droed i liwio ystyriol, cwisiau a chwilair.
Bydd pobl hefyd yn gallu dysgu am fannau cynhwysol, cael awgrymiadau gyrfa a chael cyngor gan Gyngor ar Bopeth Ceredigion.
Dywedodd Dr. Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, "Mae Sioe Iechyd a Lles Llambed yn gyfle gwych i'n cymuned ddod at ei gilydd, dysgu, ac ymgysylltu ag amrywiol wasanaethau iechyd a lles. Rydym yn annog pawb i fanteisio ar y digwyddiad hwn i gael cyngor a chymorth gwerthfawr ar gyfer eu hiechyd a'u lles. Rwy'n mawr obeithio gweld cymaint ohonoch yno a siarad â chi am y ffyrdd y gallwn wella ein hiechyd a'n lles."
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion dros Oedran a Lles, "Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion i gefnogi'r sioe iechyd a lles bwysig hon yng nghanol y sir. Trwy weithio gyda'n gilydd, gan ddefnyddio digwyddiadau fel hyn er enghraifft, gallwn sicrhau bod gan ein cymunedau lleol fynediad at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iachach a hapusach."
Sylwch nad oes unrhyw gyfleusterau arlwyo yng Nghanolfan Llesiant Llambed. Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar gael ar y safle, gydag opsiynau parcio ychwanegol o fewn pellter cerdded byr. Mae modd cyrraedd y lleoliad hefyd ar daith gerdded 10 munud o safleoedd bysiau canol y dref.