12 Tachwedd 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn ei wythnosau olaf o'i ymrwymiad naw wythnos i adfywio ei strategaeth hirdymor. Mae'r Bwrdd Iechyd yn annog pobl i gymryd rhan a rhannu yr hyn sy'n eu helpu i fyw bywydau iachach.
Ers lansio'r ymgysylltiad ar 26 Medi 2025, mae adborth wedi'i gasglu gan gannoedd o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r adborth hwn yn helpu i lunio strategaeth wedi'i hadfywio sy'n adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i gymunedau lleol, nid yn unig o ran gwasanaethau gofal iechyd, ond hefyd y ffactorau ehangach sy'n cefnogi iechyd a llesiant da.
Mae'r ymgysylltiad yn gofyn 11 cwestiwn allweddol am sut mae pobl yn aros yn iach, yn cyrchu gofal, a pha welliannau yr hoffent eu gweld yn eu hardal leol, adeiladau gofal iechyd, a gwasanaethau digidol. Mae pobl yn ymateb i'r cwestiynau hyn ar wefan y Bwrdd Iechyd ac mae adborth hefyd yn cael ei gasglu trwy ymgysylltu â grwpiau cymunedol, cyfryngau cymdeithasol, a sgyrsiau uniongyrchol gyda staff.
Wrth fyfyrio ar yr adborth a gafwyd hyd yn hyn, mae rhai themâu cyffredin wedi dod i'r amlwg. Rhannwyd pwysigrwydd cymunedau a chysylltiad rhwng pobl - rôl teuluoedd a ffrindiau - wrth alluogi llesiant. Mae hyn hefyd yn cynnwys y rôl bwysig y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae bob dydd wrth gefnogi pobl o fewn cymunedau. Mae themâu cyffredin eraill yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfleusterau lleol ar gyfer iechyd a llesiant, fel campfeydd, clybiau chwaraeon a rhwydweithiau cymdeithasol.
Mae awydd i gael mwy o fynediad at wasanaethau meddygon teulu hefyd wedi'i rannu i allu cael mynediad at wasanaethau i gadw'n iach, yn ogystal â chael mynediad at gymorth pan fyddant yn sâl.
O safbwynt cymorth digidol, mae diddordeb mawr mewn defnyddio ap presennol GIG Cymru i ddod â gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau archebu at ei gilydd mewn un lle. Mae materion eraill a godwyd ynghylch gwasanaethau digidol yn cynnwys angen cefnogi unigolion sy'n ceisio cael mynediad at wasanaethau lle mae cysylltedd gwael, ar gyfer pobl ag anghenion mynediad (gan gynnwys namau synhwyraidd), a chefnogaeth i bobl sy'n llai hyderus yn defnyddio technoleg ddigidol.
Mae adborth hefyd yn dangos pryder ynghylch teithio a thrafnidiaeth, yn enwedig i gymunedau gwledig sy'n wynebu teithiau hir am ofal ac opsiynau cludiant cyhoeddus cyfyngedig. Mae rhai awgrymiadau wedi'u gwneud ynglŷn â chymorth ymarferol i fynd i'r afael â hyn, megis gwella cynlluniau gwirfoddoli sy'n helpu pobl â phroblemau trafnidiaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr, yr Athro Philip Kloer: "Diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu barn hyd yn hyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn llunio dyfodol iechyd a llesiant yn ein hardal, rwy'n eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn i lunio ein strategaeth. Bydd casglu mewnwelediadau o'n cymunedau yn ein helpu i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn parhau i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."
Gall pawb sy'n dymuno gwneud hynny gymryd rhan ac ymuno â'r sgwrs drwy:
Gwahoddir pobl i rannu eu barn erbyn dydd Gwener 28 Tachwedd 2025.