1 Awst 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyrraedd canol ei ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Wrth i'r ymgynghoriad gyrraedd y cam allweddol hwn, mae'r Bwrdd Iechyd yn manteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn ac i fyfyrio ar yr adborth a dderbyniwyd. Gyda'r ymgynghoriad ar agor tan 31 Awst 2025, mae amser o hyd i bobl gymryd rhan a rhannu eu barn.
Mae BIP Hywel Dda yn ceisio barn ar naw gwasanaeth gofal iechyd i wella mynediad a safonau ac ymdrin â'r heriau cyfredol. Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad yw gofal critigol, dermatoleg, llawdriniaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedig dewisol, radioleg, strôc ac wroleg. Gallai cynigion newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hyn mewn ysbytai a rhai cyfleusterau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn y dyfodol.
Ers i'r ymgynghoriad lansio ar 29 Mai 2025, mae dros 1,600 o bobl wedi cymryd rhan trwy fynychu digwyddiadau ac mae dros X o bobl wedi cwblhau'r holiadur. Mae'r rhain yn cynnwys digwyddiadau galw heibio ar draws ein tair sir a chymunedau cyfagos, cyfarfodydd ar-lein, yn ogystal â thrafodaethau grŵp cymunedol.
Mae'r cyfranogwyr wedi cynnwys cleifion a staff, unigolion o grwpiau prin eu clywed, cyn-filwyr, a chynrychiolwyr etholedig. Mae gweithgareddau pellach wedi'u cynllunio, gydag ymdrechion allgymorth yn parhau drwy gydol y cyfnod ymgynghori.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood: “Diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu barn. Rydym yn gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym ac eisiau manteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar rai o'r adborth a gawsom hyd yn hyn.”
“Mae aelodau o'n cymuned yn cydnabod bod ein gwasanaethau dan bwysau, ac wedi cymryd yr amser i rannu profiadau personol, sy'n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i ni. Fel staff, cleifion, a defnyddwyr gwasanaethau lleol, rydym i gyd eisiau gwella ein gwasanaethau i ddiwallu ein hanghenion presennol a'n hanghenion yn y dyfodol.”
Mae trafnidiaeth a sut y gallai cleifion gael mynediad at wasanaethau wedi'i godi fel pryder, gan adlewyrchu sut mae ein gwasanaethau wedi'u gwasgaru dros ardal fawr. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod y gallai rhai opsiynau olygu amseroedd teithio hirach i rai pobl ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid fel Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol i Oedolion drwy gydol y broses, i sicrhau bod trefniadau trafnidiaeth priodol wedi'u hystyried.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen ‘ Mewnwelediadau i Gleifion a Theithio’ ar wefan yr ymgynghoriad: Mewnwelediad i Gleifion a Theithio (agor mewn dolen newydd). Os dewisir opsiwn penodol fel rhan o’r ymgynghoriad sy’n cael effaith ar deithio, bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner i edrych ar sut y gall leihau’r effaith ar gleifion a staff.
Dywedodd Mr Henwood: “Rydym wedi clywed pryderon am yr opsiynau sy’n cael eu hystyried ar gyfer gwasanaethau strôc, yn enwedig y model ‘trin a throsglwyddo’. Gyda phryderon penodol ynghylch cludiant a gallu ymweld ag anwyliaid pe baent yn cael eu trosglwyddo i gael mynediad at wasanaethau adsefydlu mewn ysbyty arall. Rydym am sicrhau pobl, o dan bob opsiwn, y byddai’r diagnosis cychwynnol, a lle bo angen, triniaeth thrombolysis a allai achub bywyd, yn parhau i gael ei ddarparu ym mhob un o’r pedwar ysbyty acíwt yn ardal Hywel Dda, gan gynnwys Ysbyty Bronglais.”
“Rydym hefyd wedi derbyn cwestiynau am ddyfodol Ysbyty Llanymddyfri. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau Ysbyty Llanymddyfri, sy’n ganolfan i’n cymuned ac sy’n darparu ystod o wasanaethau o’r ward a gofal lliniarol, diwedd oes, i wasanaethau a gynigir trwy glinigau.”
Mae newidiadau sy'n ymwneud â gwasanaethau a gynigir yn Ysbyty Llanymddyfri wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad ar Radioleg, un o'r naw gwasanaeth clinigol sy'n cael eu hadolygu. O dan yr opsiynau presennol, gellid darparu'r gwasanaeth Pelydr-X, a ddarperir un diwrnod yr wythnos yn Llanymddyfri ar hyn o bryd, o Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Mae'r peiriant presennol, a roddwyd yn hael gan y gymuned, yn gyfyngedig o ran y mathau o ddelweddu y gall ei gyflawni oherwydd datblygiadau mewn technoleg, ac mae angen i rai cleifion deithio i safleoedd eraill eisoes ar gyfer eu Pelydrau-X. Pe bai'r gwasanaeth yn parhau yn Llanymddyfri, byddai angen disodli'r peiriant.
Mae'r broses ymgynghori ei hun wedi ysgogi amrywiaeth o safbwyntiau a sylwadau. Mewn ymateb i'r adborth cymunedol hwn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi ychwanegu cyfleoedd ychwanegol i bobl rannu eu barn. Roedd hyn yn cynnwys mynychu Marchnad Abergwaun yn Neuadd y Dref Abergwaun ar 31 Gorffennaf 2025 a digwyddiad galw heibio yn Nhywyn, Gwynedd a drefnwyd ar gyfer dydd Llun 4 Awst 2025, i sicrhau y gall mwy o bobl rannu eu barn.
Anogir pobl hefyd i awgrymu opsiynau newydd neu syniadau amgen ar gyfer y gwasanaethau dan sylw. Bydd unrhyw opsiynau amgen a gyflwynir yn cael eu hystyried fel rhan o ystyriaeth gydwybodol yr ymgynghoriad. Yna bydd opsiynau amgen yn cael eu hasesu yn yr un modd ag y mae opsiynau presennol wedi cael eu hasesu er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu gofal diogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig. Byddant yn cael eu mesur yn erbyn yr un meini prawf, a elwir yn feini prawf rhwystr, a byddai angen iddynt fod yn gyflawnadwy o fewn dwy i bedair blynedd.
Ychwanegodd Mr Henwood: “Rydym am ddeall beth fyddai’r opsiynau’n ei olygu i chi, ac rydym yn croesawu eich awgrymiadau ar opsiynau newydd neu syniadau amgen. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud, nid oes unrhyw opsiynau a ffefrir, a bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried ochr yn ochr â thystiolaeth ategol ac asesiadau effaith cyn gwneud argymhellion i’r Bwrdd yn ddiweddarach eleni.”
Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar dudalennau gwe ymgynghori pwrpasol y Bwrdd Iechyd (agor mewn dolen newydd)
Am ragor o wybodaeth ac i gwblhau'r holiadur ymgynghori, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni yn hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 303 8322, opsiwn 5 (cyfraddau galwadau lleol).