25 Medi 2025
Bydd y newidiadau dros dro i'r llwybr atgyfeirio iechyd meddwl arferol yng Ngheredigion, a gyflwynwyd gyntaf ym mis Mawrth 2025, yn cael eu hymestyn tan fis Tachwedd 2025. Nod yr estyniad hwn yw sicrhau mynediad parhaus at ofal iechyd meddwl diogel ac effeithiol i drigolion lleol.
Ym mis Mawrth, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda newid dros dro i'r ffordd y mae meddygon teulu yn atgyfeirio cleifion ar gyfer asesiadau iechyd meddwl arferol, mewn ymateb i brinder parhaus staff meddygol a nyrsio.
O dan y trefniant hwn, mae unigolion sy'n ymweld â'u meddyg teulu am gymorth iechyd meddwl nad yw'n frys wedi cael eu cyfeirio at wasanaeth cymorth iechyd meddwl Opsiwn 2 GIG 111 Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn cysylltu galwyr yn uniongyrchol ag ymarferydd llesiant iechyd meddwl lleol, gyda chefnogaeth nyrs iechyd meddwl gofrestredig, gan alluogi mynediad amserol at gyngor, asesiad a chymorth.
Mae meddygon teulu yn parhau i gyfeirio cleifion â'r anghenion mwyaf brys neu gymhleth yn uniongyrchol at y tîm iechyd meddwl cymunedol ac mae ganddynt fynediad at linell gymorth broffesiynol 111 am gyngor clinigol ychwanegol.
Mae'r tîm iechyd meddwl ac anableddau dysgu a rhanddeiliaid allanol wedi bod yn monitro'n agos y canlyniadau clinigol a'r ddarpariaeth gwasanaeth yn dilyn y gweithrediad ym mis Mawrth.
Oherwydd heriau parhaus i'r gweithlu, mae'r tîm iechyd meddwl wedi gofyn am ymestyn y newid gwasanaeth dros dro tan fis Tachwedd 2025. Bydd yr estyniad hwn yn cefnogi casglu a dadansoddi data pellach, gan sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan dystiolaeth gadarn ac yn darparu sefydlogrwydd i gleifion a staff.
Bydd y Bwrdd yn adolygu'r estyniad yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus ym mis Tachwedd 2025, yn dilyn trafodaeth yn y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad ym mis Hydref.
Dywedodd Liz Carroll, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Grŵp Gofal Clinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y bwrdd iechyd: “Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl yng Ngheredigion yn parhau i dderbyn gofal iechyd meddwl diogel, amserol ac effeithiol.
“Rydym yn gwybod bod pethau y gallwn eu dysgu o’r cyfnod y mae’r newid dros dro wedi bod ar waith. Fel rhan o’r cynllun i ymestyn hyn ymhellach, byddwn yn gweithio gyda meddygon teulu a defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau ein bod yn defnyddio’r dysgu hwnnw i fynd i’r afael ag unrhyw faterion ymarferol fel bod y gwasanaeth hwn mor effeithiol â phosibl i bawb dan sylw.
“Rydym yn ddiolchgar am ddealltwriaeth a chefnogaeth y gymuned wrth i ni fynd i’r afael â heriau parhaus y gweithlu.”
Anogir unrhyw un sydd angen cymorth iechyd meddwl i gysylltu ag Opsiwn 2 GIG 111 Cymru, sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'r gwasanaeth am ddim i'w ffonio o unrhyw ffôn, hyd yn oed heb gredyd ffôn, a bydd galwyr yn cael eu cysylltu â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol Hywel Dda. Mae meddygon teulu yn parhau i fod ar gael i roi cyngor a chymorth fel arfer.
I rannu eich barn am y gwasanaeth neu’r newid dros dro, trowch at www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/mynediad-parhaus-at-gymorth-gofal-iechyd-meddwl-yng-ngheredigion (agor mewn tab newydd)