5 Ebrill 2023
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles Lynne Neagle â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yng Nghaerfyrddin ddydd Iau, 30 Mawrth i glywed am ddau brosiect arloesol sydd â’r nod o helpu i wella iechyd meddwl ar draws yr ardal.
Cyfarfu Ms Neagle â staff sy’n darparu gwasanaethau gofal iechyd meddwl amenedigol a phartneriaid o’r elusen iechyd meddwl Mind ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi menywod a’u teuluoedd cyn i fabi gael ei genhedlu a hyd at 12 mis oed, neu hyd at 24 mis os yw’r fam angen cymorth i fondio gyda’i babi newydd.
Dywedodd Ms Neagle: “Mae’n wych bod yma a chwrdd â thîm mor gryf, amrywiol ac amlddisgyblaethol a chlywed am yr holl waith maen nhw’n ei wneud i gefnogi mamau a thadau amenedigol. Mae wedi bod yn wych clywed am y gwasanaeth rhagorol hwn – y gwaith y maent yn ei wneud nawr a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIP Hywel Dda a’r Arweinydd Strategaeth ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol Angela Lodwick: “Rydym yn hynod falch o ddatblygiad cyflym y Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol ers ei sefydlu’n wreiddiol o ddau glinigwr i dîm o 21 o ymarferwyr medrus ac ymroddedig iawn.
“Rydym yn edrych ymlaen at ehangu pellach i gynnwys Iechyd Meddwl Babanod a gweithio’n agosach ochr yn ochr â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i sicrhau bod pob babi a theulu yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
“Rwy’n falch iawn bod y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles Lynne Neagle wedi dod i ddarganfod mwy am y gwaith anhygoel y mae’r tîm yn ei wneud – roedd yn gyfle gwych iddi siarad wyneb yn wyneb â’n tîm ymroddedig.”
Yn ystod ei hymweliad, clywodd y Dirprwy Weinidog gyflwyniad gan dîm Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dan arweiniad Karen Thomas, Pennaeth Dieteteg y bwrdd iechyd.
Mae’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion yn darparu gwasanaeth rheoli pwysau tosturiol sy’n cael ei arwain gan anghenion i gefnogi unigolion sy’n byw gyda gordewdra i reoli eu pwysau yn y tymor hir.
Dywedodd Karen Thomas: “Mae ein gwasanaeth yma i gefnogi unigolion i wella eu perthynas â bwyd, mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n dylanwadu ar eu hymddygiad bwyta gyda’r nod o’u helpu i gyflawni gostyngiadau cymedrol, cynaliadwy mewn pwysau.
“Roedd yn wych gallu rhannu hyn gyda’r Dirprwy Weinidog – gofynnodd lawer o gwestiynau ar ôl y cyflwyniad, felly roedd yn gyfle gwych i ddweud mwy wrthi am ein gwaith.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles Lynne Neagle: “Mae’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion yn gwneud gwaith mor werthfawr – mae wedi bod yn wych clywed popeth amdano a hoffwn longyfarch y tîm am eu holl waith caled a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i ofal iechyd yn ein cymunedau. Rwy’n siŵr y bydd y gwasanaeth yn mynd o nerth i nerth.”