Neidio i'r prif gynnwy

Y camau nesaf i lwyddiant yn y dyfodol

13 Mawrth 2025

Roedd myfyrwyr o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn gallu siarad â staff gwasanaethau iechyd a gofal lleol am eu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Ionawr.

Trefnwyd y digwyddiad, ‘Camau nesaf at lwyddiant y dyfodol’, sydd wedi’i anelu at ddisgyblion Blwyddyn 10, gan Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth y sir, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd chwe deg pump o gyflogwyr yn bresennol.

Rhoddodd y digwyddiad gipolwg i fyfyrwyr ar yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael yn ein GIG lleol.  Roedd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol, megis defnyddio modelau beichiogrwydd a geni ffetws, modelau deintyddiaeth, asesiadau fasgwlaidd/niwrolegol gan ddefnyddio offer uwchsain doppler Huntleigh, prawf pen monofilament a fforc diwnio.

Bu 12 adran o’r bwrdd iechyd yn arddangos amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, gan gynnwys nyrsio, cyllid, gwasanaethau digidol, podiatreg, patholeg/gwyddorau gwaed, gweithlu’r dyfodol.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, a Dirprwy Brif Weithredwr, “Rwy’n falch o’n timau a gefnogodd y digwyddiad hwn. Maent wedi helpu i ysbrydoli’r myfyrwyr i ddewis gyrfa ym maes Iechyd gobeithio, ar ôl dangos iddynt y rolau amrywiol niferus o fewn ein bwrdd iechyd.”

Dywedodd Lydia Rhys, Cydlynydd Datblygiad Personol a Chymunedol ar gyfer Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth “Rwy’n ddiolchgar i’r holl gyflogwyr lleol a fynychodd, gan gynnwys y rhai o’n GIG lleol. Roedd ein pobl ifanc yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i ddeall ymhellach y rolau sydd ar gael ym maes gofal iechyd.”

Mynychodd tua 1,500 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Coedcae, Ysgol Emlyn, Ysgol Bryngwyn, Ysgol Dyffryn Taf ac Ysgol Dyffryn Aman ac Ysgol Glan Y Môr.

I ddarganfod mwy am gyfleoedd gyrfa yn y bwrdd iechyd, ewch i: Gweithio i ni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)