29 Ionawr 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno i glywed barn cleifion a'r gymuned leol cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau meddygon teulu i gleifion Meddygfa'r Sarn.
Yn ei gyfarfod heddiw (29 Ionawr 2026), trafodwyd argymhelliad Panel Meddygfa Wag i gau meddygfa Pontiets a symud cleifion i feddygfeydd eraill sydd agosaf at eu cartref.
Penderfynodd y Bwrdd ymgysylltu â'r gymuned leol am wyth wythnos gan ddechrau ddydd Llun 9 Chwefror ar yr argymhelliad hwn cyn gwneud penderfyniad terfynol. Bydd hyn yn galluogi'r Bwrdd i ddeall effeithiau posibl yr argymhelliad hwn yn well a'r hyn y gellid ei roi ar waith i gefnogi cleifion a allai gael eu heffeithio.
Bydd yr adborth a geir yn helpu'r Bwrdd i wneud penderfyniad terfynol yn ei gyfarfod ar 28 Mai.
Bydd y cyfnod ymgysylltu yn para am wyth wythnos, o ddydd Llun 9 Chwefror i ddydd Llun 6 Ebrill 2026.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cleifion, staff a rhanddeiliaid allweddol yn gallu cwrdd â'r bwrdd iechyd trwy fynychu un o'n digwyddiadau galw heibio cyhoeddus a rhannu eu barn wyneb yn wyneb.
Bydd cleifion Meddygfa'r Sarn hefyd yn cael eu gwahodd i lenwi arolwg, a fydd ar gael ar-lein ac ar bapur o ddydd Llun 9 Chwefror.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu hysbysebu cyn gynted â phosib, a bydd y bwrdd iechyd yn ysgrifennu at bob claf gyda manylion am sut y gallant rannu eu barn.
Mae Meddygfa'r Sarn wedi bod yn feddygfa a reolir gan y bwrdd iechyd ers 2017, yn dilyn tynnu’n ôl o'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gan y cyn-bartneriaid. Ar hyn o bryd mae'r feddygfa’n darparu gwasanaethau i oddeutu 4,350 o gleifion.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r feddygfa wedi wynebu heriau staffio parhaus a sylweddol ac ar hyn o bryd nid oes ganddi feddygon teulu a gyflogir yn barhaol. Mae'r adeilad ei hun yn fach ac yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig. Ym mis Hydref 2025, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, cynhaliodd y bwrdd iechyd Banel Meddygfa Wag i adolygu opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal yn y tymor hir.
Ystyriodd y panel ystod o opsiynau, gan gynnwys rheoli'r feddygfa’n barhaus, uno â meddygfeydd cyfagos, caffael darparwr newydd, a gwasgaru'r rhestr cleifion. Daeth y Panel i'r casgliad bod gwasgaru’r rhestr cleifion yn cynnig yr ateb hirdymor mwyaf cynaliadwy i gleifion ac ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yn ardal Aman Gwendraeth.
Byddai'r argymhelliad yn gweld cleifion yn cael eu trosglwyddo gan y bwrdd iechyd i’r feddygfa agosaf at eu cyfeiriad cartref. Mae'r rhain yn cynnwys Meddygfa Nant-y-Glo ym Mhontyperem, Meddygfa Minafon yng Nghydweli, ac ar gyfer nifer llai o gleifion, meddygfeydd yn Llanelli.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Fel bwrdd iechyd, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod cleifion yn gallu cyrchu gwasanaethau meddyg teulu diogel, o ansawdd uchel a chynaliadwy.
"Rydym yn cydnabod y gall yr argymhelliad hwn olygu newid sylweddol i gleifion a chymunedau, a dyna pam mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i wrando cyn gwneud penderfyniad terfynol. Bydd y cyfnod ymgysylltu yn caniatáu i bobl rannu eu barn, gofyn cwestiynau, a helpu i lywio penderfyniad y Bwrdd ym mis Mai.
"Ni fydd unrhyw newidiadau yn digwydd yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn, ac rydym am roi sicrwydd i gleifion y bydd gwasanaethau ym Meddygfa'r Sarn yn parhau fel arfer. Edrychaf ymlaen at gwrdd ag aelodau o'r gymuned yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu."
Yn ystod y cyfnod ymgysylltu, bydd Meddygfa'r Sarn yn aros ar agor a dylai cleifion barhau i gael at wasanaethau yn y ffordd arferol. Mae'r bwrdd iechyd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a ddangoswyd i'r tîm ym Meddygfa'r Sarn yn ystod y cyfnod hwn o newid i staff a chleifion.
Bydd rhagor o wybodaeth am y broses ymgysylltu, gan gynnwys sut y gall pobl rannu eu barn, yn cael ei rhannu yn y dyddiau nesaf.