Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn talu teyrnged i arweinydd nyrsys ysbrydoledig

Mrs Carol Cotterell Gyda thristwch mawr hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau bod Mrs Carol Cotterell, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, wedi marw’n ddiweddar ar 13 Rhagfyr 2020.

Roedd Mrs Cotterell yn gydweithiwr a lwyddodd i ennyn parch ac edmygedd mawr yn y bwrdd iechyd a’r GIG drwy gydol ei gyrfa nodedig ym maes nyrsio.

Meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Ar ran y bwrdd, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu Mrs Cotterell ar yr adeg anodd hon.

“Fe wnes i gwrdd â Mrs Cotterell gyntaf yn 1988 pan oedd yn uwch-nyrs, a thros y degawdau dangosodd dro ar ôl tro ei chymeriad, ei phroffesiynoldeb a’i thosturi a oedd yn sicrhau gofal o’r safon uchaf i gleifion. Dylanwadodd yr ethos hwnnw’n barhaol ar bawb a oedd yn ei hadnabod ac a fu’n cydweithio â hi.”

“Mae’r hyn a gyflawnodd ac a gyfrannodd Carol er budd y GIG, ei chydweithwyr a’i chleifion ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn rhagorol, ac ni fyddwn yn anghofio hynny. Yn anad dim byddwn yn cofio ei hymroddiad i ofal iechyd, ei chyngor a’i harweiniad hael i’w chydweithwyr, a’i hymwneud â’r Gymdeithas Cyfeillion dros gyfnod o flynyddoedd lawer, yn enwedig yn Ysbyty’r Tywysog Philip ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Yn ogystal â’i llwyddiannau proffesiynol rhagorol niferus, buodd Mrs Cotterell yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith o recriwtio nyrsys Ffilipino i orllewin Cymru a’u cynorthwyo, ac roedd ganddi ddiddordeb parhaus yn natblygiad eu gyrfa ac yn y cymorth personol a gâi ei gynnig iddynt.”

Meddai Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roedd pobl ledled Cymru a thu hwnt yn gwybod am enw da Mrs Cotterell. Rydym yn cydymdeimlo’n ddidwyll iawn â’i theulu a’i chydweithwyr ac yn diolch am ei gwasanaeth ymroddedig a rhagorol i gymaint o bobl.”

Gall cydweithwyr sydd am rannu neges bersonol o ddiolch ebostio eu neges i Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk, a bydd yn cael ei chynnwys mewn llyfr coffa a gaiff ei rannu â theulu Mrs Cotterell. Bydd cerbydau’r angladd yn mynd heibio i Ysbyty’r Tywysog Philip cyn yr angladd a gynhelir fore dydd Iau 31 Rhagfyr. Er mai munud o dawelwch a geir fel rheol ar achlysuron fel hyn, mae teulu Mrs Cotterell yn teimlo y byddai cymeradwyaeth yn ffordd addas o ddathlu ei bywyd. Hoffem atgoffa pawb yn garedig i lynu bob amser wrth y rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol.