26 March 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw wedi cymeradwyo newid parhaol i lwybr atgyfeirio meddygon teulu ar gyfer cymorth iechyd meddwl rheolaidd i oedolion yng Ngheredigion.
Mae hyn yn golygu y gofynnir i oedolion yng Ngheredigion a aseswyd gan eu meddyg teulu fel rhai sydd angen cymorth rheolaidd neu lai brys ar gyfer eu hiechyd meddwl ffonio gwasanaeth 111 Pwyso 2 GIG Cymru yn hytrach na chael eu cyfeirio at dîm iechyd meddwl cymunedol Ceredigion.
Mae penderfyniad y Bwrdd yn dilyn tystiolaeth sy'n dangos bod y broses o gyflwyno'r llwybr hwn dros dro yng Ngheredigion wedi'i roi ar waith yn ddiogel ers mis Mawrth 2025 a bod cleifion yn cael gofal mwy amserol a phriodol.
Yn ogystal, yn dilyn cyfnod ymgysylltu cynhwysfawr o naw wythnos gyda defnyddwyr gwasanaeth, clinigwyr, meddygon teulu a phartneriaid trydydd sector, cytunodd y Bwrdd hefyd i’r llwybr diwygiedig gael ei gyflwyno fesul cam ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau mynediad diogel ac effeithlon at ofal iechyd meddwl a sicrhau bod pob claf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt” meddai Liz Carroll, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Yng Ngheredigion, cafodd y llwybr ei newid dros dro fel mesur brys oherwydd prinder sylweddol o staff nyrsio a meddygol yn y tîm iechyd meddwl cymunedol.
“Bydd gwneud y newid hwn yn barhaol yn golygu y bydd mwy o oedolion sydd angen cymorth iechyd meddwl nad ydynt yn rhai brys yn cael cymorth yn llawer cyflymach drwy wasanaeth 111 Pwyso 2 GIG Cymru. Bydd hyn hefyd o fudd i bobl ag anghenion iechyd meddwl mwy cymhleth neu frys drwy greu capasiti yn ein timau iechyd meddwl cymunedol.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd angen cymorth iechyd meddwl i gysylltu â 111 Pwyso 2 GIG Cymru am gymorth.”
Yn flaenorol, roedd cleifion yng Ngheredigion yn aros hyd at 28 diwrnod neu fwy i gael eu gweld yn bersonol gan y tîm iechyd meddwl cymunedol, a dangosodd data fod angen y lefel hon o asesiad a chymorth ar lai na 5% o'r cleifion hyn.
Mae gwerthusiad o'r model hwn dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos bod y newid dros dro wedi'i weithredu'n ddiogel. Ni adroddwyd am unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau difrifol neu anffodus, digwyddiadau anffafriol, na chwynion sy'n gysylltiedig â'r newid llwybr dros dro, gan roi sicrwydd bod cleifion yn cael gofal amserol a phriodol tra'n cynnal diogelwch.
Mae hefyd wedi gwella gallu tîm iechyd meddwl cymunedol y sir i ddarparu asesiad wyneb yn wyneb ar gyfer y rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth neu frys.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu profiadau yn ystod y broses ymgysylltu.
“Rydym wedi gwrando’n ofalus ac mae wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio penderfyniad y Bwrdd heddiw. Dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau mwy o eglurder a chysondeb ynghylch sut mae’r llwybr atgyfeirio’n gweithio, ac amlygwyd bylchau yn y ddealltwriaeth o 111 Pwyso 2, gan gynnwys yr hyn y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig, pwy sy’n ei ddarparu a chyfyngiadau ei rôl.
“Clywsom hefyd bryderon am hygyrchedd i bobl a allai fod yn gweld gwasanaethau ffôn yn heriol, yn ogystal â phryderon am feddyginiaeth a threfniadau rhagnodi.
“Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr i leihau’r meysydd sy’n peri pryder. Byddwn yn ceisio cynyddu staffio i gefnogi dull Bwrdd Iechyd cyfan a chyflwyno’r llwybr fesul cam ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Fel rhan o’r penderfyniad hwn heddiw, ymrwymodd y Bwrdd i adolygu’r cyflwyno a’r hyn sy’n cael ei roi ar waith i feithrin mwy o ddealltwriaeth o’r gwasanaeth a mwy o ymddiriedaeth gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth.
“Mae mabwysiadu’r llwybr hwn ar draws ein Bwrdd Iechyd yn alinio’r gwasanaeth a ddarparwn â’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles ac yn ein helpu i ddatblygu’r gwaith o ddatblygu model mynediad agored.
“Mae penderfyniad heddiw yn cydnabod y manteision cadarnhaol a ddangoswyd yng Ngheredigion a bydd yn sicrhau dull cyson a theg ar draws gorllewin Cymru sy’n galluogi cleifion i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn modd amserol.”
Bydd meddygon teulu yn parhau i atgyfeirio unigolion ag anghenion iechyd meddwl brys neu gymhleth yn uniongyrchol i dimau iechyd meddwl cymunedol pan fo angen. Mae llinell gymorth GIG 111 broffesiynol benodedig hefyd ar gael i glinigwyr sydd â phryderon am allu claf i gysylltu â’r gwasanaeth yn annibynnol.
Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi cyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae gwasanaeth 111 Pwyso 2 GIG Cymru yn darparu asesiadau ffôn amserol a ddarperir gan ymarferwyr lles, a oruchwylir gan nyrsys iechyd meddwl cofrestredig yn Hywel Dda.
Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl, a chroesewir galwadau yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth ac am adnoddau defnyddiol pellach y gallwch gael mynediad iddynt gartref a sefydliadau a all gefnogi eich iechyd meddwl, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/iechyd-meddwl-a-lles (yn agor mewn dolen newydd).