Neidio i'r prif gynnwy

Cyntaf yng Nghymru i lofnodi Siarter Cynhwysiant Digidol

Mewn ymgais i helpu i leihau’r bwlch digidol ar draws ein cymunedau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflawni achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol Cymru, y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Mae’r bwrdd iechyd eisiau datblygu rhaglen cynhwysiant digidol sy’n canolbwyntio ar sgiliau digidol a hyder pobl, gan sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a gwelliant wrth ymgysylltu â nhw.

Gan gydnabod bod mynediad digidol a sgiliau yn ffactor cymdeithasol ym maes iechyd, mae’r bwrdd iechyd yn achub ar y cyfle i weithio tuag at poblogaeth sydd wedi’i grymuso’n ddigidol. Bydd ei raglen cynhwysiant digidol yn arwain, cysylltu a chefnogi dull ar y cyd ar gyfer gwaith cynhwysiant digidol amrywiol ar draws y bwrdd iechyd a gyda’i bartneriaid i arfogi ei weithlu a’i boblogaeth ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cynhwysiant digidol yn agwedd bwysig ar ddigideiddio unrhyw wasanaeth. Heb fynediad digidol, sgiliau a hyder ni fyddwn byth yn sicr bod ein poblogaeth yn wirioneddol barod ar gyfer y byd digidol sy’n newid ac yn esblygu’n barhaus. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod digon o gyfleoedd a chymorth ar gael o fewn ein gwasanaethau a’n cymunedau ehangach i leihau’r risg o adael pobl ar ôl.

“Rwy’n gobeithio y bydd ein hymrwymiad yn agor y sgyrsiau o fewn gwasanaethau a sefydliadau iechyd a gofal ar draws y rhanbarth, a Chymru gyfan, ac y bydd yn ysbrydoli sefydliadau eraill i ystyried cynhwysiant digidol fel galluogwr allweddol ym mhopeth a wnânt.”

Ychwanegodd Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Digidol: “Nid digidol yw’r ateb i’n holl broblemau, ond gyda’r mynediad, y sgiliau a’r hyder, gall wneud gwahaniaeth enfawr a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi a rheoli ein hiechyd a’n llesiant. . Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein poblogaeth yn gallu cael mynediad i wasanaethau ac ymgysylltu â nhw yn y ffyrdd maen nhw'n eu dewis. Bydd datblygu’r rhaglen cynhwysiant digidol yn ein helpu i fynd i’r afael â’r bwlch digidol a, thrwy weithio gyda phob sector o’r rhanbarth, bydd yn cynnig cyfleoedd a mynediad cyfartal i wasanaethau i bobl leol.”

Dywedodd Michelle Hickin, Rheolwr Cynhwysiant Digidol: “Rydym am i bawb yn ein cymunedau deimlo eu bod wedi’u grymuso a’u bod yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch ffyrdd o ymgysylltu â gwasanaethau a rheoli eu hiechyd a’u lles. Mae gan Ddigidol le yn ein bywydau i gyd a gall fod o fudd mawr i ni, ond mae’n rhaid i ni fod yn barod i gamu allan o’n parth cysurus, agor ein meddyliau i’r cyfleoedd a chaniatáu i’n hunain gael ein hysbrydoli.”

Cadarnhaodd Cymunedau Digidol Cymru achrediad y bwrdd iechyd ym mis Medi 2022 ar ôl dangos yn llwyddiannus ei ymrwymiad i roi egwyddorion y Siarter Cynhwysiant Digidol ar waith.

Mae rhagor o wybodaeth am y Siarter ar gael yma: Cynhwysiant digidol yng Nghymru (gov.wales) (agor mewn dolen newydd)