28 Hydref 2024
Llid y pendics, gwichio ac asthma, bygiau chwydu a dolur rhydd cas a heintiau firaol - dyma ond rhai enghreifftiau o'r gofal a ddarparwyd yn ward plant Bronglais yn ystod y pythefnos diwethaf.
A bydd gofal a thriniaeth fel hyn yn parhau i gael eu darparu o Ward Angharad, yn yr Ysbyty yn Aberystwyth, pan ddaw newidiadau dros dro (am hyd at chwe mis) i rym o ddydd Gwener 1 Tachwedd 2024.
Dywedodd Dr Prem Kumar Pitchaikani, Cyfarwyddwr Clinigol, Cyfarwyddiaeth Menywod a Phlant a Phediatregydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am dawelu meddwl y gymuned a’n staff bod ward y plant ym Mronglais yn parhau i fod ar agor ac y bydd yn parhau i ofalu am y mwyafrif helaeth o blant, a hynny 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
“Bydd y newid dros dro yn golygu am gyfnod y byddwn yn trosglwyddo achosion mwy cymhleth, lle gallai fod angen i blant fod yn yr ysbyty am gyfnodau hirach o amser, i Ysbyty Glanwgili yng Nghaerfyrddin.
“Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o blant ac ieuenctid yn parhau i gael gofal o Fronglais a dylai teuluoedd barhau i ddefnyddio gwasanaethau iechyd fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Bydd unrhyw benderfyniad i drosglwyddo plant yn cael ei wneud gan y tîm clinigol ar y cyd â theuluoedd.”
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn cyfarfod ym mis Medi 2024, y bydd plant sydd angen gofal mwy cymhleth ac arosiadau hirach yn yr ysbyty, yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili, a hynny am hyd at chwe mis.
Mae angen hyn oherwydd pwysau dros dro ar staff nyrsio pediatrig yn Ysbyty Bronglais.
Yn wreiddiol, y gred oedd y byddai plant sydd angen mwy na 24 awr o ofal yn cael eu trosglwyddo mewn ambiwlans i Gaerfyrddin, ond mae hyn bellach wedi'i ymestyn i'r rhai sy'n debygol o fod angen 36 awr neu fwy o ofal claf mewnol. Bydd pob achos yn cael asesiad risg clinigol ar gyfer trosglwyddo a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gyda theuluoedd.
Dywedodd Nick Davies, Rheolwr Gwasanaethau Aciwt Pediatrig a Newyddenedigol: “Mae diffyg dros dro yn nifer y staff nyrsio pediatrig yn Ysbyty Bronglais, ac mae hyn wedi arwain at y newid dros dro hwn er budd diogelwch cleifion.
“Fodd bynnag, rydym yn recriwtio’n weithredol ac yn gobeithio gallu datrys y mater hwn cyn gynted â phosibl.
“Yn y cyfamser, mae gwasanaethau ysbyty pediatrig yn parhau yn Ysbyty Bronglais, a hynny drwy’r dydd, bob dydd. Mae hyn yn cynnwys yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig, lle gellir asesu a thrin plant, yn ogystal â chleifion mewnol tymor byrrach, sefydlogi a thriniaeth lawfeddygol.”
Mae disgwyl i'r newid hwn effeithio ar lai na phedwar o blant neu ieuenctid a'u teuluoedd bob mis.
Gofynnir i bobl ddefnyddio gwasanaethau iechyd ar gyfer plant fel arfer, gan gynnwys mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys Bronglais pan fo angen, neu fynychu PACU ar ôl cael eu cynghori gan Feddyg Teulu i wneud hynny, gan mai dim ond pan fydd angen y bydd trosglwyddiadau’n cael eu gwneud a bydd y rhain yn cael eu trefnu gan staff pediatrig ar y cyd â teuluoedd.