5 Awst 2022
Heddiw, cafodd aelod o dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei hanrhydeddu a’i derbyn i Orsedd yr Eisteddfod yn Nhregaron.
Urddwyd Carys Stevens, nyrs gofal lliniarol o Aberaeron, am ei chyfraniad i ofal diwedd-oes yng ngorllewin a chanolbarth Cymru. Cafodd ei derbyn fel gwisg las i Orsedd yr Eisteddfod a bydd yn cael ei hadnabod fel Carys Camddwr. Rhoddir gwisg las i unigolion am eu cyfraniad i'w bro neu'r genedl ym meysydd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu'r Cyfryngau.
Dywedodd Carys: “Mae’n fraint eithriadol cael fy nerbyn i’r Orsedd. Rwy’n derbyn yr anrhydedd yma ran y tîm – fy nghydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – sy’n gweithio’n galed bob dydd i geisio sicrhau’r gofal diwedd-oes gorau i’n cleifion. Mae ein cleifion, a'u teuluoedd, yn holl bwysig i ni, mae'n bleser dod i'w hadnabod a chael chwarae rhan yn eu gofal a'u bywydau.”
Mae Carys yn credu fod gan bawb yr hawl i fyw a marw gydag urddas. Sefydlodd gysylltiad â phob practis meddygol lleol, gan sicrhau bod tîm o staff, yn wirfoddolwyr a staff cyflogedig, wrth law i gefnogi cleifion a'u teuluoedd. Sefydlodd gwasanaeth Hosbis yn y Cartref i fynd i'r afael â heriau darparu gofal lliniarol diwedd-oes i drigolion mewn cymunedau gwledig lleol.
Wrth wneud hynny, pwysleisiodd bwysigrwydd addysgu unigolion am farw a byw’n dda, gan annog trafodaeth agored a meithrin agwedd realistig a thrugarog tuag at ddiwedd oes.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd, a Phrofiad y Claf: “Llongyfarchiadau mawr i Carys. Rydym yn falch iawn ohoni a’i chyfraniad i brofiad ein cleifion. Gyda’r Eisteddfod yn ein bro, ac yn dilyn y ddwy flynedd anodd ddiwethaf i’n gwasanaeth a’n cymunedau, mae’r anrhydedd hon yn un arbennig iawn.”
Roedd Carys ymysg nifer o unigolion a gafodd eu hurddo a’u derbyn i’r Orsedd heddiw. Yn gynharach eleni, ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Rheng Blaen y GIG (5 Gorffennaf), cyhoeddwyd fod Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn cael ei urddo i’r Orsedd eleni ar ran holl weithwyr allweddol a gwirfoddolwyr Cymru.
Cafodd y rhestr o’r unigolion a gafodd eu hurddo heddiw ei chyhoeddi yn ystod haf 2020, ond oherwydd y pandemig, eleni yw'r cyfle cyntaf i'w derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.