26 Mai 2023
P’un a ydych yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri i wylio’ch plentyn neu ffrind yn cystadlu ar y llwyfan, cwrdd â ffrindiau neu i fwynhau a dathlu diwylliant Cymru, bydd croeso cynnes i chi yn y Stondin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gallwch ddod o hyd i ni ar stondin rhif 101-104.
Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ac mae gan ein stondin ddigonedd i’w gynnig i aelodau o’n cymunedau lleol ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin. Bydd gwesteion arbennig yn ymuno â’n tîm Hywel Dda i gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles drwy gydol yr wythnos i bobl o bob oed.
Edrychwn ymlaen at ein hymddangosiadau arbennig gan y diddanwyr Tudur Phillips (dydd Llun a dydd Iau) a Siani Sionc (Dydd Mawrth) a fydd yno i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer corff a chadw'n heini ac iach wrth berfformio a dawnsio.
Bydd cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac i gwrdd â gwahanol dimau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:
Drwy gydol yr wythnos
- Bydd y Tîm Imiwneiddio a Brechlynnau yn gallu ateb unrhyw gwestiynau am imiwneiddiadau a brechiadau.
- Bydd y Tîm Recriwtio yn rhannu manylion am sut y gallwch ddatblygu eich gyrfa ym maes iechyd a'r ystod eang o gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y bwrdd iechyd.
- Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu gael profiad gwaith o fewn y bwrdd iechyd, bydd Tîm Gweithlu’r Dyfodol ar gael i ateb unrhyw gwestiynau drwy gydol yr wythnos.
- Os ydych yn ymweld â’r stondin ni fyddwch am golli ein Tîm Cynhwysiant Digidol, a fydd yno drwy’r wythnos. Cymerwch sbin ar y Beic Rhithwir Google, neu rhowch gynnig ar yr apiau iechyd ar un o'n iPads - mae'r tîm yn hapus i'ch helpu i ddysgu sut i ddatblygu eich sgiliau digidol, hyder, a sut i gael mynediad at dechnoleg i hybu eich iechyd.
- Bydd Tîm Therapïau Plant ar y stondin i gynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant o wahanol oedrannau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu iaith, geirfa, sgiliau gwrando a symud.
Dydd Llun
- Galwch draw ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau i weld ein diddanwyr plant gwadd, Tudur Phillips a Siani Sionc.
Dydd Mawrth
- Bydd y Tîm Nyrsio Cymunedol Plant, Tîm Iechyd Anabledd Plant, Tîm Gwasanaethau Therapi Chwarae yn cynnig rhai offer hybu iechyd gan gynnwys set o ddannedd mawr 'drwg', gweithgareddau i hybu bwyta'n iach ac ymarfer corff byddant hefyd yn gofyn i blant gymryd rhan mewn paentio gyda chwistrellau ac arddangos dyfeisiau pwysedd gwaed.
- Bydd Tîm Methiant y Galon yno i drafod iechyd y galon a beth i'w wneud i gadw'r galon yn iach.
- Bydd ein Tîm Patholeg ar y stondin ddydd Mawrth gydag amrywiaeth o weithgareddau addas i blant ar gael.
Dydd Mercher
- Bydd Nyrsys Ysgol Sir Gaerfyrddin yno i siarad a dangos i blant ysgol gynradd pwysigrwydd bwyta'n iach, golchi'ch dwylo a chysgu a byddant wrth law i siarad am bwysigrwydd iechyd meddwl ac emosiynau gyda disgyblion ysgol uwchradd (Dydd Mercher & Gwener).
- Bydd Tîm Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau wrth law i wirio eich pwysedd gwaed a rhoi cyngor (dydd Mercher i ddydd Sadwrn)
- Bydd Tîm Cynllun Gwên wrth law i roi cyngor ar iechyd y geg – yn enwedig i blant ifanc a'u rhieni, gan gynnwys arddangosiad ar y ffordd orau o gadw dannedd yn lân ac yn iach.
Dydd Iau
- Ddydd Iau bydd ein Tîm Lles Dementia ynghyd â Thîm Nyrsys Admiral yn bresennol i gynyddu ymwybyddiaeth plant a lleihau stigma ynghylch dementia ac i ddarparu persbectif mwy cadarnhaol o bobl sy'n byw gyda dementia.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac arweinydd y Gymraeg, Alwena Hughes Moakes: “Cawsom amser gwych yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron y llynedd ac rydym wrth ein bodd bod Eisteddfod yr Urdd yn ein hardal ni eleni. Mae ein timau’n edrych ymlaen at gyfarfod a siarad â phobl leol o Sir Gaerfyrddin, ac ymwelwyr â Llanymddyfri, i drafod popeth sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant yn ogystal ag arddangos rhywfaint o’r gwaith rydym yn ei wneud fel bwrdd iechyd i gefnogi ein cymunedau lleol. Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein stondin – o gymryd tro cyflym ar ein Beic Google i awgrymiadau da ar ddatblygu gyrfa werth chweil o fewn y GIG. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddathliad gwych o ieuenctid, iaith, a diwylliant yn ein hardal leol.”
I gael y diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd a Maes yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac Instagram @hywelddauhb neu ddilyn y sgwrs yn #HywelArYMaes #HywelOnTheMaes a #IechydDaHywelDda
DIWEDD