04 Awst 2022
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori â’r cyhoedd ar dri safle posibl, dau yn ardal Hendy-gwyn ar Daf ac un yn Sanclêr, ar gyfer ysbyty gofal brys a chynlluniedig newydd fel rhan o’i strategaeth ehangach i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.
Cyflwynodd y bwrdd iechyd gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, yn gynharach eleni, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3 biliwn mewn iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus. Sylfaen y cynllun yw dod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi pobl, gyda chynlluniau ar gyfer canolfannau iechyd a gofal integredig lluosog, wedi ei gynllunio gan gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro*
Mae ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o strategaeth y bwrdd iechyd i allu ail-ddarparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, drwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddai hyn yn gwella a chynyddu’r gwsanaethau gofal arbenigol y gellir ei ddarparu ac yn mynd i'r afael â rhai heriau hirsefydlog, gan gynnwys hen ysbytai, problemau o ran cynnal rotâu meddygol dros sawl ysbyty, a recriwtio staff.
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw (dydd Iau 04 Awst 2022), clywodd y Bwrdd fod y broses hyd yn hyn ar gyfer arfarnu safleoedd ysbyty newydd posibl, o fewn y parth* y cytunwyd arno yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2018, wedi derbyn cydnabyddiaeth arfer gorau gan y corff annibynnol, y Sefydliad Ymgynghori.
Roedd cytundeb unfrydol bod angen rhagor o ymgynghori cyhoeddus, yn enwedig er mwyn clywed lleisiau staff nas clywir yn aml, gan gynnwys y rheini yn y gymuned a gwasanaethau gofal sylfaenol.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r manylion a ddarparwyd trwy'r broses arfarnu tir fanwl hyd yma, penderfynodd y Bwrdd fynd â thri o'r pum safle a ystyriwyd yn flaenorol, drwodd i ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae safleoedd na fyddant yn cael eu datblygu yn cynnwys un o ddau yn Sanclêr (safle J), roedd hyn oherwydd iddo gael y sgôr risg uchaf yn seiliedig ar nodweddion y safle ac roedd, oherwydd iddo gael sgôr sylweddol is na safleoedd eraill yn yr arfarniad technegol, a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth fwyafrifol o’r cyhoedd ac a ddefnyddiodd broses sgorio wedi’i phwysoli yn unol â’r hyn sydd bwysicaf i’n cymunedau.
Y safle arall na chafodd ei ddatblygu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus oedd safle Arberth. Roedd hyn oherwydd pryderon gwerthusiad clinigol y byddai safle ymhellach i'r gorllewin yn arwain at ostyngiad yn nifer y genedigaethau, derbyniadau newyddenedigol a derbyniadau pediatrig acíwt, lleihau'r màs critigol ar gyfer gwasanaethau diogel a chynaliadwy, a chael effaith negyddol ar ddenu staff clinigol a chynnal statws hyfforddai i feddygon, nyrsys a bydwragedd. Mewn perthynas â throsglwyddiadau amser critigol, er enghraifft gofal dwys newyddenedigol, a chardiaidd, mae'r rhain i gyd yn mynd i'r dwyrain a byddai ysbyty yn Arberth yn arwain at amseroedd trosglwyddo hirach.
Wrth grynhoi’r cyfarfod, dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein hachos busnes rhaglen i Lywodraeth Cymru yn ceisio’r buddsoddiad mwyaf y bydd gorllewin Cymru wedi’i weld erioed, ac mae’n adeiladu ar sylfaen ein haddewid i ddod â chymaint o ofal ag sy'n bosibl yn nes at gartrefi pobl drwy ganolfannau gofal integredig mewn llawer o drefi ar draws gorllewin Cymru.
Rydym wedi gwrando ac yn parhau i wrando ar ofnau a lleisiau’r cyhoedd a wasanaethwn a’n staff sy’n deall yr heriau rheng flaen o ddarparu gwasanaethau ar draws cymaint o safleoedd ac wedi’u lledaenu mor denau. Rydym fel Bwrdd yn addo parhau i wrando ac ystyried y safbwyntiau hynny ar bob cam. Gan gydnabod pa mor fregus yw ein gwasanaethau a’r risg y mae hyn yn ei wynebu bob dydd, nid ydym yn bwriadu gwneud newidiadau yn Ysbyty Glangwili nac Ysbyty Llwynhelyg cyn adeiladu ysbyty newydd. Ac wedi hynny, byddant yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd gwerthfawr i’n cymunedau.”
Bydd y bwrdd iechyd nawr yn gweithio’n agos gyda Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ddatblygu cynllun ymgynghori i glywed barn pobl am y tri safle sy’n weddill, un yn Sanclêr, a dau yn Hendy-gwyn ar Daf.
I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd, ac achos busnes y rhaglen, ewch i wefan y bwrdd Iechyd ble gallwch weld dogfennau, adnoddau a cwestiynau cyffredin.
Gallwch wylio'r cyfarfod bwrdd hynod yn llawn ar-lein -https://www.youtube.com/watch?v=XGDgOXc4Ihw
Hoffai’r bwrdd iechyd hefyd atgoffa pobl fod dal amser ganddynt i roi eu barn am gynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Llesiant Integredig Abergwaun yn Sir Benfro drwy’r wefan Dweud Eich Dweud, sydd ar gael yma.