Neidio i'r prif gynnwy

Tîm ymchwil iechyd yn croesawu rhodd hael er cof am Lynne Drummond

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch i deulu Drummond am eu rhodd o £5,100 i'r Adran Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty Tywysog Philip. Codwyd yr arian er cof am y diweddar Mrs Lynne Drummond.

Yn anffodus collodd Lynne, 73 mlwydd oed, a oedd yn nyrs am dri degawd, ei bywyd i COVID-19 yn Ysbyty Tywysog Philip, bum niwrnod yn unig cyn iddi dderbyn ei brechiad cyntaf.

Mae'r cyfraniad hwn er cof amdani, wedi ei roi i gronfa ymchwil COVID-19 sydd wedi'i lleoli yn ysbyty Llanelli, dan arweiniad yr Athro Keir Lewis.

“Roedd fy mam-gu yn fenyw arbennig. Yr unigolyn mwyaf anhunanol, llawn bywyd a chariadus i mi erioed ei gyfarfod. Ar hyn o bryd rwy'n astudio i ddod yn nyrs, a hi oedd fy mhrif ysbrydoliaeth. Hi oedd ac yn dal i fod y glud sy'n dal ein teulu ynghyd. Mae cymaint o bobl yn ei cholli ac yn ei charu cymaint,”meddai ei hwyres, Abbie Drummond.

Cwblhaodd Lynne ei hyfforddiant nyrsio yn Ysbyty Treforys a daeth yn nyrs gofrestredig ym 1969. Yna symudodd i hen Ysbyty Cyffredinol Llanelli lle treuliodd yr 14 mlynedd nesaf. Yn dilyn hyn, datblygodd Lynne o fod yn Brif Nyrs i fod yn Uwch Reolwr Nyrsio yr Uned Endosgopi a Gofal Dydd newydd yn Ysbyty Tywysog Philip.

Ar ôl iddi ymddeol ym 1998 fe’i penodwyd yn aelod o’r Cyngor Iechyd Cymunedol i Awdurdod Iechyd Sir Gaerfyrddin yn 2000 gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru ar y pryd Jane Hutt. Yna cafodd ei hethol yn ddirprwy gadeirydd tan 2006.

Lynne Drummond

“Pan oedd fy mam-gu yn yr ysbyty, daeth yr Athro Keir Lewis ati i ofyn iddi roi gwaed i’w ymchwil i COVID-19, roedd hi’n fwy na pharod i gyfrannu. Pan fu farw yn anffodus ym mis Ionawr, fel teulu roeddem yn gwybod bod angen i ni roi yn ôl i'r gofal arbennig a gafodd."

Bydd yr arian a roddwyd yn cyfrannu at fapio data clinigol ar draws nifer o brosiectau ymchwil COVID-19. Un o'r rhain yw prosiect Biobank, y rhoddodd Lynne ei hun samplau tuag ato. Nod y prosiect hwn yw archwilio pam mae systemau imiwnedd rhai pobl yn ymddwyn mor wahanol i eraill i'r feirws. At hynny, bydd ymchwil i brofion cyflymach a chyffuriau hefyd yn elwa o'r rhodd.

Dywedodd yr Athro Keir Lewis, sy’n arweinydd anadlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac a oedd yn ymgynghorydd Lynne ar ôl ei derbyn: “Pan ddaeth Lynne i mewn, roedd yn gefnogol iawn i’r gwasanaeth. Fel cyn-nyrs roedd hi'n deall pwysigrwydd ymchwil glinigol. Arhosodd yn bositif ac yn ddewr drwyddi draw ac roedd bob amser yn barod i helpu.

Mae'r arian a godwyd gan ei theulu wedi cael effaith fawr wrth ein galluogi i wella a chyflymu'r prosiectau clinigol yn yr Adran Ymchwil a Datblygu. "

Mae Lynne yn gadael ar ôl ei gŵr o 50 mlynedd, Jim, ynghyd â thri mab Andrew, Robert ac Ian a'i phump o wyrion Hannah, Abbie, Rhiannon, Holly a Rhys.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Abbie a Jim Drummond, a ddaeth i ymweld â'n huned i weld y canolfannau ymchwil, er gwaethaf eu colled, ac i'r teulu cyfan am eu hymdrechion. Mae eu dewrder a’u cyfeillgarwch wedi mynd yn bell iawn.” ychwanegodd yr Athro Lewis.