17 Ionawr 2025
Tîm diabetes pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yw’r tîm sy’n perfformio orau yng Nghymru ac yn drydydd yng Nghymru a Lloegr yn ôl ffigurau diweddaraf yr Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol.
Mae’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol, a gynhelir gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, yn casglu data gan sefydliadau’r GIG ledled Cymru a Lloegr i gefnogi clinigwyr yn eu gwaith, i helpu cleifion i gael y gofal gorau ac i ddefnyddio data i wella triniaeth a rheolaeth.
Un mesur o lwyddiant yw rhif HbA1C claf – prawf sy’n mesur faint o glwcos yn y gwaed sydd ynghlwm wrth haemoglobin claf, a geir mewn celloedd coch y gwaed.
Arweinir tîm diabetes pediatrig Hywel Dda gan Dr Simon Fountain-Polley a Dr Swe Lynn.
Esboniodd Dr Swe Lynn, pediatregydd ymgynghorol: “Mae HbA1C yn brawf gwaed pwysig sy’n rhoi arwydd da o ba mor dda mae diabetes yn cael ei reoli ac mae’n rhagfynegydd cryf iawn o iechyd yn y dyfodol. Dyma ein rhagfynegydd ar gyfer y risg o gymhlethdodau hirdymor o ddiabetes. Felly, gorau po isaf yw'r nifer.
“O fewn data’r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol ar gyfer 2022 i 2023, ein HbA1C cyfartalog yw’r isaf yng Nghymru a dyma’r trydydd isaf yng Nghymru a Lloegr. Mae mwy na 170 o unedau – byrddau iechyd, ac ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr, er enghraifft – sy’n darparu data i’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol (NPDA).
“Mae hwn yn gyflawniad da i ni o gofio ein bod ni’n uned fach o gymharu ag unedau eraill ar draws Cymru a Lloegr.”
Sefydlwyd yr uned diabetes pediatrig tua 15 mlynedd yn ôl pan ffurfiwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac roedd yn un o'r timau lleiaf yng Nghymru. Ond cafodd staff arbenigol eu recriwtio ac erbyn hyn mae'r tîm yn cynnwys dau ymgynghorydd, dietegydd, nyrsys arbenigol pediatrig, cynorthwyydd gweinyddol a seicolegydd.
Mae Steph Griffiths, dietegydd arweiniol clinigol ar gyfer diabetes pediatrig yn cefnogi plant, ieuenctid a'u teuluoedd ynghylch maeth a diabetes.
“Mae llawer o waith yn mynd i mewn i reoli inswlin, ond gellir cefnogi rheoli glwcos yn y gwaed trwy newidiadau dietegol hefyd,” esboniodd Steph.
Rhan o rôl Steph yw addysgu plant a’u teuluoedd am arferion bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol. Mae hyn wedi cynnwys dietegwyr sy’n gweithio ym maes diabetes plant yn gweithio ar brosiect lle mae ganddynt fwydlenni ysgol gynradd sy’n cyfrif carbohydradau yn y tair sir.
Mae Steph yn parhau: “Rydym yn ffodus i gael seicolegydd yn rhan o’r tîm nawr ac mae hyn wedi ein gwneud yn dîm sy’n canolbwyntio mwy ar seicoleg. Mae’n bwysig iawn ein bod yn meddwl am y plentyn heb ganolbwyntio ar y diabetes – mae diabetes yn gyflwr hirdymor felly mae’n bwysig ystyried effaith hyn ar y plentyn a’r teulu cyfan.”
Mae tîm diabetes pediatrig Hywel Dda yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac yn gofalu am hyd at 200 o blant ac ieuenctid sy'n byw gyda diabetes Math 1.
Mae'r uned hefyd yn trin plant ac ieuenctid sy'n byw gyda diabetes Math 2 a mathau eraill o ddiabetes genetig prin.
Mae diabetes math 1 yn cael ei achosi gan fethiant y pancreas - sy'n arwain at anallu i gynhyrchu inswlin. Mae hyn yn ei dro yn arwain at lefelau uchel o glwcos yn y gwaed felly mae'n rhaid i gleifion roi inswlin iddynt eu hunain.
Dywedodd Dr Simon Fountain-Polley, pediatregydd ymgynghorol: “Nid oes iachâd ar gyfer diabetes Math 1 ac mae ein gwaith yn ymwneud i raddau helaeth â dysgu sut i reoli cyflwr meddygol cronig, na chewch unrhyw hoe ohono. Nid oes unrhyw seibiant i deuluoedd rhag rheoli diabetes.
“Felly mae plant â diabetes Math 1 yn cael eu derbyn i'r ward ar gyfer eu hasesiad cychwynnol a diagnosis ac i ddysgu am ddiabetes. Rydym yn defnyddio rhaglen addysg Seren Cymru gyfan. Roedd un o’n nyrsys, Yvonne Davies, yn ymwneud a’i ysgrifennu, felly mae hynny wedi bod o gymorth mawr ac mae Seren bellach yn becyn addysg diabetes a gydnabyddir yn rhyngwladol.”
Mae Sian Southgate yn nyrs diabetes pediatrig arbenigol sy'n gweithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol. Mae ei gwaith yn cynnwys darparu addysg strwythuredig SEREN sy'n briodol i'w hoedran adeg diagnosis.
“Mae cefnogaeth ac addysg i’r plant a’r ieuenctid sy’n byw gyda diabetes, ynghyd â’u teuluoedd, yn parhau. Mae adegau allweddol yn eu bywydau pan fo angen gwybodaeth ychwanegol. Er enghraifft, wrth ddechrau therapi pwmp inswlin; neu i baratoi ar gyfer symud i ysgol uwchradd; ac yn ystod blynyddoedd yr arddegau wrth baratoi ar gyfer trosglwyddo o ofal pediatrig i ofal oedolion mae yna bethau ychwanegol i’w hystyried a’u trafod.”
“Rydym yn gweithio'n dda fel tîm, yn eiriol dros ein cleifion i sicrhau gofal a negeseuon cyson. Rydym yn addasu i newid ac yn ei groesawu gan hyrwyddo cyfleoedd i blant ac ieuenctid ddefnyddio datblygiadau newydd mewn technoleg diabetes. Mae ein harweinwyr tîm yn ardderchog am fod yn eiriol dros ein cleifion ar lefel reoli, sydd yn eu tro bob amser wedi bod yn gefnogol i’n gweledigaeth.”
Ffactor arall yn llwyddiant tîm diabetes pediatrig Hywel Dda yw eu hyrwyddiad o’r defnydd o dechnoleg.
Eglurodd Dr Simon Fountain-Polley: “Mae tua 80 y cant o’n pobl ifanc yn defnyddio pympiau inswlin i reoli eu diabetes, sy’n llawer uwch na chyfartaledd yr NPDA, sef tua 40-50 y cant. Felly, rwy'n meddwl bod y defnydd cynnar, rheolaidd o dechnoleg sy'n cynnwys monitro glwcos yn barhaus a defnyddio pwmp wedi helpu'n fawr gyda'n llwyddiant.
“Hefyd, mae'r rhan fwyaf o'n plant ar yr hyn rydyn ni'n ei alw'n systemau dolen gaeedig hybrid. Sef y genhedlaeth nesaf o bympiau lle maent yn gweithio mewn cyfuniad â monitor glwcos parhaus, gyda'r data o'r monitor a ddefnyddir gan yr algorithm pwmp, i addasu faint o inswlin sy'n cael ei drwytho, gan greu swyddogaeth pancreatig artiffisial. Mae'r system hon yn llawer tebycach i weithrediad y pancreas sy'n gweithio.
“Mae canllawiau NICE ar gyfer technoleg diabetes yn cynghori i ddefnyddio’r ddolen gaeedig hybrid, felly rydym eisoes ar y blaen, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhan o’n llwyddiant.
“Rydym yn agored iawn i dechnoleg ac rydym yn mabwysiadu technolegau yn gynnar. Mae hyn yn ein galluogi i fod ar y blaen ac mae hynny’n golygu bod ein poblogaeth yn elwa o ran eu rheolaeth o ddiabetes a’u HbA1C hirdymor ac felly’r risg o gymhlethdodau.”
Mae gweithgareddau eraill a arweinir gan Simon, Swe a’r tîm yn cynnwys ymweld ag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes ac addysg barhaus reolaidd i deuluoedd sy’n byw gyda diabetes. Mae hyn yn cynnwys modiwl ar gyfer ieuenctid sy’n symud o Flwyddyn 6 ysgol gynradd i Flwyddyn 7 – eu blwyddyn gyntaf mewn ysgolion uwchradd a’r heriau a all ddod.
Aeth Simon ymlaen i ddweud “Rydym yn gwneud modiwlau ymarfer corff a gweithgaredd ynghyd â chefnogaeth cyfoedion. Rydym yn dwyn teuluoedd ac ieuenctid ynghyd am ddiwrnod. Maen nhw'n gwneud ychydig o ddysgu, ond rydyn ni hefyd yn ceisio ychwanegu rhai gweithgareddau sy'n bleserus.
“Y llynedd fe aethon ni â’r plant o Flwyddyn 6 a Blwyddyn 7 i badlfyrddio – mae’r math hwn o weithgaredd yn uno addysg a dysgu. Mae’n galluogi plant i gwrdd â phobl eraill sydd â diabetes Math 1 a chael y cymorth hwnnw gan grŵp cyfoedion ychydig yn ehangach.”
Ychwanegodd Dr. Swe fod y tîm yn delio ag ystod oedran eang a bod hyn yn dod â'i heriau ei hun.
“Yr ieuengaf a welwn yw 14 mis oed – felly mae’r plant a welwn yn amrywio o blant bach iawn i’r rhai sy’n mynd i’r ysgol uwchradd, y rhai sy’n mynd drwy’r glasoed a’r rhai sy’n gwneud TGAU a Safon Uwch. Mae gan bob un ohonynt anghenion gwahanol iawn yn eu bywyd.
“Rydyn ni’n ffodus bod gennym ni dîm gwych gyda gwahanol feysydd o arbenigedd a diddordebau, felly rydyn ni’n gallu diwallu anghenion newidiol, beth bynnag fo’u hoedran.“
Tynnodd Simon a Swe sylw at y ffaith bod y tîm diabetes pediatrig hefyd yn weithgar o ran gwella ansawdd ac ymchwil. Maen nhw’n cyflwyno data’n rheolaidd i gyfarfodydd Cymdeithas Pediatrig Cymru ac wedi cyflwyno data yn y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Endocrinoleg Pediatrig a Diabetes.
“Rydyn ni’n meddwl yn gyson am y gwaith rydyn ni’n ei wneud, yn edrych ar y data ac yn ceisio gwneud newidiadau yn seiliedig ar hynny ac yna’n rhannu’r data hwnnw gyda chynulleidfa ehangach,” meddai Simon.
“Rwy’n meddwl nad yw ein llwyddiant yn canolbwyntio ar y meddygol yn unig, mae’n ymwneud â meddwl y tu allan i’r bocs - ein defnydd rhagweithiol o dechnoleg a bod yn arloesol. Nid ydym yn sefyll yn llonydd. Rydyn ni’n chwilio’n barhaus am y peth nesaf i’w wella.”
Astudiaeth achos:
Pan gafodd Seren Morgan, 10, o Gaerfyrddin ei rhuthro i’r ysbyty’n ddifrifol wael ym mis Ebrill 2024, newidiodd ei bywyd hi a’i theulu am byth.
Cafodd Seren ddiagnosis o ddiabetes Math 1 a nawr, diolch i gefnogaeth ei theulu a’r tîm diabetes pediatrig sydd wedi’i leoli yng Nglangwili, mae Seren yn gallu rheoli ei chyflwr a gwneud llawer o’r pethau y mae’n eu mwynhau.
Gofynnwch i Seren beth mae hi'n hoffi ei wneud yn ei hamser hamdden ac mae hi'n mwynhau amserlen lawn - clwb drama, criced yn yr haf, piano ar brynhawn dydd Mercher, cwrdd â’i ffrindiau. Ac mae hi newydd dreulio amser ar drip ysgol mewn canolfan gweithgareddau awyr agored ym Mannau Brycheiniog.
Ond nid yw hyn wedi bod yn syml. Yn y gorffennol, byddai mam Seren, Katie, yn ei gadael yn y clwb drama ond nawr bydd yn aros yno i gadw llygad ar lefelau ei siwgr gwaed. Ni allai Seren aros dros nos yn Aberhonddu gyda’i ffrindiau – roedd ei rhieni’n mynd â hi i Aberhonddu bob dydd ac yn dod â hi adref bob nos.
“Aeth Seren yn wael adeg y Nadolig gyda firysau amrywiol ac yna roeddem yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty yng Nghaerdydd. Roedd hi’n cael symptomau difrifol iawn, a doedden ni ddim yn sylweddoli mai diabetes Math 1 oedd hyn,” meddai Katie.
“Dim ond pan aethon ni at ein Meddyg Teulu, a edrychodd ar Seren a meddwl bod rhywbeth o’i le, y cawsom ein hafnon ar frys i Ysbyty Glangwili. Ac ar yr 16eg o Ebrill cafodd Seren ddiagnosis o ddiabetes Math 1. Roedd yn ysgytwol iawn i ni gyd.”
“Roedd yn anodd, yn enwedig i Seren, oherwydd aeth yn syth ar driniaeth frys, a oedd yn boenus iawn ac yn drawmatig iawn.
“Rydyn ni’n dal i gael cefnogaeth nawr i Seren ddod dros yr hyn oedd yn ddigwyddiad trawmatig yn ei bywyd.”
Mae Katie wedi canmol y gefnogaeth a gafodd gan Dr Simon Fountain-Polley a thîm pediatrig Glangwili.
“Roedd y tîm diabetes yn Ysbyty Glangwili, cyn gynted ag y sylweddolodd y meddyg teulu beth oedd yn digwydd, yn ein hamgylchynu fel corwynt. Cyn gynted ag y sylweddolon nhw beth oedd yn bod, roedd cefnogaeth o'n cwmpas,” meddai Katie.
Dechreuwyd Seren ar gwrs addysg a hunan-reoli cleifion o’r un enw – Rhaglen Seren.
Mae Katie a'i theulu wedi sefydlu grŵp cymorth diabetes Math 1 ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
“Un o’r pethau wnaethon ni sylweddoli pan aeth Seren i mewn oedd ein bod ni angen cefnogaeth,” esboniodd Katie. “Roedden ni angen teuluoedd eraill oedd yn mynd trwy hyn i’n helpu ni ar unwaith. Doedd neb. Roedd y grŵp agosaf yn Sir Benfro, felly fe wnaethom sefydlu grŵp teuluoedd diabetes Math 1 Sir Gaerfyrddin, sydd bellach yn cynnwys llawer o deuluoedd lleol. Fe wnaethom gynnal digwyddiad codi arian ar gyfer tîm Caerfyrddin yn yr haf ac un arall adeg y Nadolig.”
Dywedodd Katie fod pobl yn aml yn meddwl unwaith y bydd diagnosis o ddiabetes Math 1 wedi cael ei ddiagnosio a bod cynllun triniaeth wedi’i roi ar waith bod y sefyllfa’n sefydlogi, ac y gall bywyd ddychwelyd i ryw fath o normal. “Nid yw’n achos o ‘mae hi’n sefydlog nawr’ - mae angen i ni ei reoli bob dydd a nos.
“Rydyn ni’n caru tîm diabetes Hywel Dda oherwydd rydyn ni’n gwybod eu bod nhw yno, ac maen nhw’n bobl hyfryd. Maen nhw’n barod i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennym, ac mae gennym ni fynediad 24 awr i ward yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU) os oes problem a bod angen i rywun ei gweld.”
“Rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, sy’n hynod bwysig gyda diabetes Math 1 oherwydd mae angen i ni ymddiried eu bod nhw wedi ein harfogi ni fel teulu i ofalu am Seren a’i chefnogi, ond hefyd bod Seren yn cael gofal llwyr ganddyn nhw, ac rydyn ni’n teimlo hynny.”