Neidio i'r prif gynnwy

Therapydd Iaith a Lleferydd yn ennill Gwobr "Giving Voice"

20/01/2022

Llongyfarchiadau i Therapyddion Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Mererid Jones a Libby Jeffries ar ennill y Wobr “Giving Voice”.

Cynhaliwyd seremoni rithwir gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd i wobrwyo’r therapyddion am ddatblygu byrddau cyfathrebu dwyieithog i blant.

Crëwyd y byrddau cyfathrebu mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Ceredigion i greu amgylchedd cynhwysol mewn parciau chwarae er mwyn  helpu plant i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu.

Mae’r prosiect, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn cynnwys byrddau gyda detholiad o eiriau craidd sy’n gallu cael eu defnyddio o fewn meysydd chwarae, wedi’u paru gyda symbolau cysylltiol.

Dywedodd Mererid: “Mae’n anrhydedd gwirioneddol ennill y Wobr “Giving Voice”, rydym wrth ein bodd ac yn falch o’n cyflawniad. Y wobr orau y gallwn ei derbyn, fodd bynnag, yw gweld plant yn defnyddio’r byrddau i ryngweithio â’i gilydd, a gweld ardaloedd eraill yn sefydlu byrddau cyfathrebu yn eu parciau chwarae.”

Mae’r byrddau gwrth-ddŵr a gafodd eu hariannu gan Gronfa Datblygiad Plant Llywodraeth Cymru wedi’u gosod o amgylch parciau yng Ngheredigion. Mae’r prosiect hwn nawr yn cael ei estyn ar draws parciau chwarae Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

“Rwy’n teimlo’n falch bod y prosiect hwn wedi cael ei gydnabod gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd” Dywedodd Libby.

“Rydym yn angerddol am gefnogi pobl i gyfathrebu ac rydym mor falch bod y byrddau hyn wedi helpu plant a’u teuluoedd wrth iddyn nhw chwarae mewn parciau.”

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd: “ Hoffwn estyn llongyfarchiadau enfawr i Mererid a Libby ar eu hymdrechion a’u cyfraniadau i’r prosiect hwn. Maent yn wirioneddol haeddiannol o’r wobr hon. Mae’r byrddau’n fenter wych o ran datblygu sgiliau cyfathrebu plant ac ymddygiad cymdeithasol plant.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd am gydnabod gwaith caled yr holl therapyddion Iaith a Lleferydd, yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd yn sgil y pandemig.”