Neidio i'r prif gynnwy

Symud Canolfan Brofi Llanelli

Bydd canolfan brofi gyrru drwodd COVID-19 Llanelli yn symud o Faes Parcio Parc y Scarlets B, i Iard Dafen, Heol Cropin, Dafen, SA14 8QW o bore yfory (dydd Mawrth Hydref 06 2020).

Bydd profion yn cael eu cynnal yn yr un modd ac mae archebu'n parhau trwy wefan y DU neu trwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm.

Ni ddylai fod angen i bobl deithio’n bell gan fod adnoddau profi ar gael yn Llanelli a Maes Sioe Caerfyrddin gerllaw.

Y math o brofion a gynhelir ar y safleoedd hyn yw darganfod a oes gan bobl â symptomau COVID-19. Y symptomau yw - peswch parhaus newydd, neu dymheredd uchel, neu golled / newid i ymdeimlad o arogl neu flas.

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn dylech aros gartref ac archebu prawf, ac aros gartref am 10 diwrnod o'r adeg y cychwynnodd eich symptomau neu nes i chi dderbyn canlyniad prawf negyddol. Dylai pobl yn eich cartref hefyd aros gartref am 14 diwrnod nes eich bod yn cael canlyniad prawf negyddol. Mae mwy o gyngor ar aros gartref (hunan-ynysu) i'w gael yma.

Ni ddylech archebu prawf os nad oes gennych symptomau.

Mae Llanelli yn barth amddiffyn iechyd oherwydd bod achosion yn codi. Mae hyn yn golygu bod cyfyngiadau ychwanegol yn yr ardal sy’n golygu na all pobl ymweld â chartref unrhyw un arall, na derbyn ymwelwyr i’w cartref oni bai bod ganddyn nhw reswm ‘rhesymol’ fel darparu gofal i berson bregus. Ni ddylent drefnu cyfarfod y tu fewn gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gydag ef, a bydd teithio i mewn ac allan o’r parth amddiffyn iechyd hefyd yn gyfyngedig i’r hyn a ystyrir yn ‘hanfodol’.

Gallwch wirio a ydych yn byw yn yr ardal trwy ddefnyddio eich cod post ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Roedd rhai pobl wedi bod yn adrodd anhawster i gael prawf. Os ydych chi'n byw ym mharth amddiffyn iechyd Llanelli a'ch bod chi'n cael problemau wrth gael prawf gallwch anfon e-bost at covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 333 2222.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd pawb sy’n archebu prawf yn derbyn cyfarwyddyd ar ble i fynd pan fyddant yn archebu ac ar hyn o bryd mae digon o gapasiti profi ar safle newydd Dafen ac ar Faes Sioe Caerfyrddin.

“Roedd safle Parc y Scarlets dros dro ac roedd yn achosi rhywfaint o ddryswch o ran pwyntiau mynediad i faes parcio B. Gobeithiwn y bydd yn haws cael mynediad i safle Iard Dafen.

“Hoffem ddiolch i Rygbi’r Scarlets am ddefnyddio’r safle ac i bobl yn Llanelli am eu cydweithrediad gyda’r mesurau sydd ar waith i amddiffyn ein cymuned.”

Sylwch fod pob canolfan brawf yn gyrru drwodd yn unig ac ni fyddwch yn gallu cael prawf os nad oes gennych gyfeirnod archebu.

Os archebwch trwy covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu 0300 333 2222, bydd angen i chi ddarparu:

• Eich symptomau

• Enw llawn

• Dyddiad Geni

• Cod post

• Cyfeiriad e-bost (os yw ar gael)

• Rhif ffôn symudol cyfredol (anfonir canlyniadau profion trwy neges destun) os nad oes gennych rif ffôn symudol, cynhwyswch rif llinell gartref.

Byddwch yn ymwybodol y byddwch yn derbyn galwad yn ôl gan rif anhysbys/ rhif preifat, a bod profion yn rhad ac am ddim ac na ddylai neb ofyn am fanylion talu neu gyfrif banc.

Os yw'ch prawf yn bositif, byddwch yn derbyn galwad yn ôl gan olrhain cyswllt ar 02921 961133. Atebwch alwadau o'r rhif hwn gan eu bod yn alwadau allanol yn unig.

Meddai Alison: “Mae coronafirws yn parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i bobl hŷn a’r rhai sydd â ffactorau risg cyfredol. Byddwn yn annog y cyhoedd ar draws ein hardal i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb sy'n gorchuddio'r geg a'r trwyn, cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill y tu allan i'w swigen cartref, golchi dwylo'n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo pan nad yw golchi yn bosibl. ”

Mae canolfan gyrru trwodd Llanelli wedi'i ail-leoli yn Iard Dafen, Heol Cropin, Dafen, Llanelli.

Sylwch, mae gan y bwrdd iechyd hefyd ganolfan brofi yn Nhŷ Nant (wrth ymyl KFC), yn Trostre, Llanelli, sydd yn benodol ar gyfer rhai grwpiau o gleifion ac nad yw'n agored i'r cyhoedd.

I gael yr holl ddiweddariadau ar barth amddiffyn iechyd Llanelli, ewch i http://newyddion.sirgar.llyw.cymru/