Neidio i'r prif gynnwy

Sut i helpu'r Gwasanaeth Iechyd a chymunedau lleol

Mewn ymateb i’r cynigion syfrdanol o gymorth yn ystod y pandemig COVID-19, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ein partneriaid mewn awdurdodau lleol a’r trydydd sector yn cyd-weithio i sicrhau bod yr ysbryd cymunedol eithriadol hwn yn helpu’r mwyaf bregus, ac yn cefnogi gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd gwirfoddolwyr, a chefnogaeth gan fusnesau a sefydliadau lleol, yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dyma sut y gallwch wirfoddoli neu gynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd:

Os ydych am helpu eich Gwasanaeth Iechyd lleol yn ystod pandemig COVID-19, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy ffonio 0300 303 8322 neu mewn ebost i COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk (ar agor 7am – 9pm, saith diwrnod yr wythnos). Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gynnal tasgau syml ond pwysig megis cludo offer, bwyd a meddyginiaeth a chynorthwyo gwasanaethau a staff yr ysbytai.

I gadw ein staff a’r cleifion yr ydym yn gofalu amdanynt yn ddiogel, mae’n hanfodol ein bod yn rheoli’r holl eitemau sy’n cael eu cynnig mewn modd priodol a diogel. Os y credwch fod gennych adnoddau, nwyddau neu wasanaethau allai fod o ddefnydd i ni, cysylltwch â ni. Rhaid cyfeirio pob cynnig o gefnogaeth at y Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 neu COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk anda rhaid inni fynnu nad yw pobl yn ymweld â’n hysbytai i ollwng rhoddion.

Cofiwch – y peth pwysicaf oll y gall pob un ohonom ei wneud yn y frwydr yn erbyn coronafeirws yw aros gartref, er mwyn amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau. 

Dyma sut y gallwch wirfoddoli i helpu gwasanaethau gofal cymdeithasol, y trydydd sector a chymunedau lleol:

Os y gallwch helpu i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r unigolion hynny sy’n fregus ac wedi’u hynysu yn eich cymuned trwy weithredoedd megis casglu meddyginiaeth a siopa neu gynnig cefnogaeth dros y ffôn i’r rhai hynny sydd wedi colli eu fyrdd arferol o gael cyswllt emosiynol a chymdeithasol, defnyddiwch y manylion canlynol i gofrestru i helpu yn eich hardal:

Cysylltwch â Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) ar 01267 245555 neu ebost admin@cavs.org.uk

Mae’n bwysig eich bod ond yn gwirfoddoli i gyflawni tasgau sy’n cynnwys gadael eich cartref os ydych yn bodloni POB UN o’r amodau canlynol:

  • Rydych yn iach ac heb unrhyw symptomau – peswch parhaus a/neu wres uchel – nac unrhyw un arall yn eich cartref chwaith
  • Rydych dan 70 oed
  • Nid ydych yn feichiog
  • Ni does gennych unrhyw gyflyrau iechyd hirdymor sy’n eich gwneud yn agored i niwed o coronafeirws

Os oes arnoch angen help a chefnogaeth:

Os ydych yn fusnes neu’n unigolyn sydd mewn agen unrhyw gyngor, help neu gefnogaeth, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth sy’n lleol i chi:

Meddai Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi’i syfrdanu gan y gefnogaeth aruthrol ar adeg pan mae ein staff rheng flaen yn gweithio’n ddi-flino yn paratoi ac yn gofalu am gleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Ar ran staff y Gwasanaeth Iechyd ar draws ardal Hywel Dda, dymunaf gyfleu ein diolch, ond hefyd atgoffa pobl mae’r peth pwysicaf oll y gall pob un ohonom ei wneud yn y frwydr yn erbyn coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau.”

Meddai’r Cynghorydd Jane Tremlett, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru: “Mae’r cynigion o gefnogaeth, yn ogystal â’r tosturi a’r caredigrwydd a ddangosir ar draws ein hardal ar adeg mor ddigynsail â hon yn ysgubol.

“Dyma pham ei bod yn bwysig ei gwneud mor hawdd â phosib i bobl gysylltu â ni i ddweud bod angen help arnynt ac hefyd i roi gwybod i ni y gallant wneud gwahaniaeth yn ystod pandemig COVID-19.”

“Yn yr amgylchiadau anodd presennol mae’n galonogol gweld partneriaid ledled y rhanbarth yn dod ynghyd i sicrhau bod y bobl hynny sydd angen help yn ei gael a bod cynigion o gymorth yn cael eu cydlynu’n iawn.”

Dyfyniadau awdurdodau lleol:

Ceredigion:

Meddai Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r cynigion o gefnogaeth, yn ogystal â’r tosturi a’r caredigrwydd a ddangosir ar draws ein hardal ar adeg mor ddigynsail â hon yn ysgubol.

“Dyma pham ei bod yn bwysig ei gwneud mor hawdd â phosib i bobl gysylltu â ni i ddweud bod angen help arnynt ac hefyd i roi gwybod i ni y gallant wneud gwahaniaeth yn ystod pandemig COVID-19.”


Pembrokeshire:

Mae’r Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi canu clodydd y rhai hynny sydd wedi gweithio’n ddi-flino ar baratoi Hyb Cydlynu Cymunedol CSP.

Meddai “Mae hon wedi bod yn ymdrech aruthrol gan bawb a gymerodd ran, a diolchaf i bob yr un ohonynt.

“Mae gweld grwpiau cymunedol yn awyddus i helpu yn eu cymunedau eu hunain, ac hefyd gweld ein swyddogion a phartneriaid yn cyd-weithio â nhw i gydlynu’r ymateb yn galonogol iawn.

“Pandemig coronafeirws yw’r her fwyaf y mae nifer ohonom erioed wedi ei hwynebu, ond trwy gyd-weithio gallwn leddfu’r baich sydd ar y rhai hynny sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf.”