6 Tachwedd 2025
Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei Strategaeth Ymchwil ac Arloesi newydd yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig a ddaeth ag arweinwyr ym maes gofal iechyd lleol, academyddion a phartneriaid diwydiant ynghyd.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan newydd Pentre Awel yn Llanelli ddydd Iau, 16 Hydref a’i nod oedd nid yn unig lansio’r cynllun ond hefyd rhannu profiadau o effaith ymchwil yn y sector meddygol.
Bydd y strategaeth newydd uchelgeisiol yn gyrru datblygiad meddyginiaethau a thriniaethau arloesol ymlaen gyda'r nod o drawsnewid iechyd a lles cymunedau ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd yr Athro Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Gwerth yn Hywel Dda:
“Roedd ein digwyddiad arddangos yn ddathliad rhyfeddol o’r cynnydd a’r cyflawniadau rydym wedi’u gweld yn ein gwaith ymchwil ac arloesi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach gyfleusterau ymchwil pwrpasol ym mhob un o’n siroedd ar draws de orllewin Cymru. Rydym wedi ehangu ein gweithlu ymchwil clinigol ac rydym wedi lansio mentrau arloesol fel y Sefydliad TriTech.
“Siaradodd nifer o’r siaradwyr heddiw am sut yr ydym ni yn ne orllewin Cymru, fel rhanbarth, yn uchelgeisiol o ran ymchwil ac arloesi. Clywsom hefyd am rai o’r heriau sy’n ein hwynebu yn y rhanbarth, felly mae angen i ni fod yn uchelgeisiol a dewr yn ein hymagwedd at ddod o hyd i ffyrdd newydd arloesol o wella iechyd a lles ein cymunedau.”
Clywodd y digwyddiad gan yr Athro Helen Munro, Ymgynghorydd Iechyd Menywod yn Hywel Dda ac arweinydd Llywodraeth Cymru ar Iechyd Menywod; dau feddyg teulu lleol, Dr Will Macintosh yn Sanclêr a Dr Anna Collenette o Aberteifi. Clywsant hefyd gan yr Athro Sue Denman am bwysigrwydd ehangu’r sylfaen ymchwil o fewn ein cymunedau.
Cafwyd cyflwyniadau hefyd ar y cyfleoedd ar gyfer ymchwil anadlol masnachol gan yr Athro Keir Lewis – ymgynghorydd yn Hywel Dda a Dr Dan Harris, fferyllydd ymchwil yn Hywel Dda, a siaradodd am ddatblygiadau ym maes trin clefyd cardiofasgwlaidd.
Mae tîm Ymchwil ac Arloesi Hywel Dda yn gweithio’n agos gyda chwmnïau fferyllol mawr a chlywodd y gynhadledd gan gynrychiolwyr o gwmnïau gan gynnwys Astra Zeneca, Whyze Health a Jiva.AI.
Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth am ddyfodol Deallusrwydd Artiffisial yn y diwydiant iechyd a'i ddefnyddiau posibl yn y dyfodol.
Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Hywel Dda: “Roedd mor ysbrydoledig clywed sut mae gwaith ymchwil a datblygu sy’n cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd yn ysbrydoli ein clinigwyr ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy’n byw yn ein cymunedau.
“Mae’n bwysig i ni gofio nad gweithgaredd academaidd yn unig yw’r ymchwil hwn – mae’n ffordd o ysgogi gwell gofal ac iechyd, systemau doethach a chymunedau iachach ac mae’n sicrhau manteision gwirioneddol.
“Hoffwn longyfarch ein Tîm Ymchwil ac Arloesi am eu holl waith caled ac rwy’n gyffrous iawn i weld pa welliannau ac arloesiadau y byddant yn gweithio arnynt dros y pum mlynedd nesaf ac i’r dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Strategol Ymchwil ac Arloesi gweler Lansio cynlluniau ar gyfer ymchwil ac arloesi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cyhoeddiadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
DIWEDD