21 Tachwedd 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn dathlu cyflawniad rhagorol chwe aelod o’i dîm nyrsio a gafodd eu cydnabod yng Ngwobrau mawreddog Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Iau, 20 Tachwedd 2025.
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu arloesedd a rhagoriaeth mewn ymarfer, gan gydnabod ymdrechion, ymrwymiad a chyflawniadau rhagorol y gymuned nyrsio ledled Cymru.
Eleni, llwyddodd nyrsys Hywel Dda i ennill tri chategori a dwy ail safle, gan gynrychioli’r tair sir ac ystod eang o ddisgyblaethau. Llongyfarchiadau mawr i:
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn bod ein nyrsys Hywel Dda wedi cael eu cydnabod eto yn y digwyddiad mawreddog hwn.
“Mae’r gwobrau’n rhoi cyfle gwych i nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth a myfyrwyr arddangos y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt.
“Hoffwn longyfarch pob un o’r enwebeion, y rhai a ddaeth yn ail, a’r enillwyr eleni. Mae eu cyflawniadau yn adlewyrchiad nid yn unig o’u gwaith caled a’u hymroddiad, ond hefyd o ymdrech ar y cyd cydweithwyr ar draws ein gwasanaethau.
“Mae’n wirioneddol fraint gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol mor drugarog ac ymroddedig, ac rwyf wedi fy syfrdanu gan yr effaith ryfeddol y maent yn parhau i’w chael ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”
Llongyfarchiadau i chi gyd, rydym yn hynod o falch o'ch cael chi yn ein teulu Hywel Dda.
DIWEDD