Codwyd dros £100,000 yn lleol ar gyfer staff y GIG a gwirfoddolwyr sy’n gofalu am gleifion coronafirws ers lansio Apêl GIG COVID-19 Hywel Dda ddiwedd mis Mawrth.
Mae cyfanswm o werth £20,000 o eitemau hefyd wedi’u prynu i gleifion trwy Apêl Cleifion Hywel Dda ar Amazon, ochr yn ochr â dwsinau o roddion mewn nwyddau i ysbytai, o fwyd a chyflenwadau.
Mewn fideo a ryddhawyd ar dudalen Facebook Elusennau Iechyd Hywel Dda dudalen Facebook Elusennau Iechyd Hywel Dda heddiw (LINK), darllenodd staff Hywel Dda gerdd ingol, ddwyieithog o'r enw 'Diolch', a ysgrifennwyd gan y bardd lleol Tudur Dylan Jones i ddathlu'r ysbryd cymunedol a welwyd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.
Yr ymdrech godi arian fwyaf oedd ymdrech Rhythwyn Evans o Silian. Fe gododd ei daith 91 lap o'i ardd ar ei ben-blwydd yn 91 dros £44,000.
Rhaid rhoi sylw arbennig hefyd i Gwyndaf Lewis o Efailwen, a gododd dros £37,000 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili, trwy redeg 50km er cof am ei fam Undeg a fu farw yn anffodus o coronafirws.
Mae rhyddhau'r fideo yn nodi diwedd Apêl Hywel Dda COVID-19 ddiwedd mis Mehefin.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Ms Maria Battle: “Nid yw’r gefnogaeth a’r haelioni a ddangoswyd i’n staff a’n cleifion dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn ddim llai na thwymgalon, llethol ac ysbrydoledig.
“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein staff, gwirfoddolwyr a chleifion a'n hapêl COVID-19. Mae eich caredigrwydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.
“Diolchwn hefyd i Tudur Dylan Jones am ei eiriau hyfryd. Mae ‘Diolch’ yn crynhoi ein diolch ac rydym yn wirioneddol ostyngedig gan yr holl gariad a chefnogaeth a ddangosir i’r GIG lleol ar yr adeg hon.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Wrth inni symud o’r heriau cychwynnol a ddaeth yn sgil COVID-19, rydym nawr yn edrych ymlaen at sut y gall arian elusennol a godir barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad Cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
“Rydyn ni'n deall bod y rhain yn amseroedd anodd ond mae unrhyw gefnogaeth y gallwch chi ei rhoi yn golygu y byddwch chi'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'n cleifion, eu teuluoedd a'n staff. Ni fyddai ein gwaith yn bosibl heb eich cefnogaeth chi."
Gallwch gyfrannu nawr, yn hawdd ac yn gyflym, trwy gyfrannu yma www.justgiving.com/hywelddahealthcharities neu am wybodaeth bellach am Elusennau Iechyd Hywel Dda ewch i: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/hywel-dda-health-charities neu cysylltwch â’r tîm ar 01267 239815.