Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau bod ein Bwrdd yn adlewyrchu ein cymunedau

10 Mawrth 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd, neu leiafrifoedd ethnig, sy’n frwd dros helpu i ddarparu gofal iechyd rhagorol, i ymuno â rhaglen sydd â’r nod o ddatblygu’r sgiliau i ddod yn aelodau o’r Bwrdd.

Mae Rhaglen Darpar Aelodau’r Bwrdd yn gwrs datblygu arweinyddiaeth 12 mis sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, ac Academi Wales.

Mae'r rhaglen yn agored i unrhyw un ond mae'n ceisio annog ceisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Mae'n rhad ac am ddim i'w fynychu a bydd yn cynnwys digwyddiadau dysgu, lleoliadau bwrdd, a hyfforddiant arweinyddiaeth annibynnol. Nid oes angen profiad yn y sector iechyd i wneud cais.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Hywel Dda a’r Dirprwy Brif Weithredwr Lisa Gostling: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen bwysig hon a chynnal lleoliadau ar gyfer dau gyfranogwr, gan roi cipolwg ymarferol iddynt ar rôl Aelodau Annibynnol a gwaith y Bwrdd.

“Bydd y rhaglen hon yn helpu i baratoi unigolion ar gyfer cais yn y dyfodol ac yn annog amrywiaeth o ymgeiswyr, sy’n fwy cynrychioliadol o’n poblogaeth a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Mae Chantal Patel yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Meddai: “Mae cael Bwrdd Iechyd amrywiol yn arwain at wneud penderfyniadau gwell, llywodraethu cryfach, a pholisïau gofal iechyd mwy cynhwysol. Pan fydd pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau yn dod at ei gilydd ar lefel arweinyddiaeth, mae ansawdd trafodaethau, arloesedd, a chanlyniadau cleifion yn gwella'n sylweddol.

“I mi, mae gwasanaethu fel Aelod Annibynnol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn brofiad hynod werth chweil a thrawsnewidiol. Mae wedi fy herio, wedi ehangu fy sgiliau arwain, ac wedi fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth lunio gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer cymunedau amrywiol.

“Mae bod yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd yn fwy na swydd yn unig – mae’n gyfle i helpu i lunio dyfodol gofal iechyd, dod â lleisiau newydd i arweinyddiaeth, a sicrhau bod y GIG yn wirioneddol wasanaethu pawb. Mae’n rhaglen bwysig gan fod gennym nifer sylweddol o staff rhyngwladol yn gweithio o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Os ydych chi'n ei ystyried, ewch amdani - rydych chi'n perthyn yn y lleoedd hyn, ac mae eich persbectif yn amhrisiadwy."

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hon yn rhaglen hynod bwysig sy’n helpu i sicrhau bod y Bwrdd yn gallu defnyddio sgiliau amrywiol a phrofiad diwylliannol cyfoethog y gymuned gyfan. Yn ei dro, bydd hyn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cleifion yn well a sicrhau eu bod yn derbyn y gofal iechyd priodol a gorau posibl.

“Fel Cadeirydd y Bwrdd, rwy’n dibynnu ar ein Haelodau Annibynnol i roi darlun cywir a gonest o sut mae ein gofal iechyd yn effeithio ar ein pobl a’n cymunedau. Byddwn yn argymell y rhaglen hon yn gryf i unrhyw un o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill sy’n poeni’n angerddol am sut rydym yn darparu gofal iechyd ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.”

Mae'r broses ymgeisio ar agor nawr ac yn cau ddydd Mawrth, 18 Mawrth. Ewch i https://academiwales.gov.wales/cyrsiau-a-digwyddiadau/rhaglenni/rhaglen-darpar-aelodau-bwrdd/ i ddarganfod mwy.