Cynhaliwyd seremoni gyflwyno ar 15 Mawrth gan Uchel Siryfion Cymru, gan weithio ochr yn ochr â'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) i wobrwyo cynrychiolwyr, unigolion a thimau, i gydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mynychwyd y seremoni, a gynhaliwyd yn rhithiol ar MS Teams gan: Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi Dyfed, Miss Sara Edwards, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan MS, Denise Llewelyn, MBE, FRCN, Aelod o'r Bwrdd RCN, yn ogystal â Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, a Chyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Mandy Rayani.
Enwebodd y Coleg Nyrsio Brenhinol saith cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i dderbyn gwobrau ar eu rhan eu hunain a'u cydweithwyr fel a ganlyn:
• Ann Griffiths (Stiward a Chynrychiolydd Dysgu)
• Ann Murphy (Stiward a Chynrychiolydd Dysgu)
• Sandra Watson (Stiward)
• Yvonne Thomas (Cynrychiolydd Stiward a Dysgu)
• Andrea Mills (Stiward)
• Susan Morgan (Cynrychiolydd Dysgu)
• Tracy Asbridge (Stiward)
Enwebodd ein Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Mandy Rayani hefyd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Sharon Daniel a'r tîm atal a rheoli heintiau, a Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio a Gwella Ansawdd, Mandy Davies a'r Ganolfan Orchymun Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Yn ystod y seremoni, dyfarnwyd Tystysgrifau Cydnabyddiaeth Arbennig Uchel Siryf i gynrychiolwyr RCN i bob enwebai. Mynegwyd diolch diffuant i bawb gan yr Uchel Siryf, yr Arglwydd Raglaw a'r Gweinidog wrth iddynt ddatgan bod holl staff y GIG wedi bod yn anhygoel a bod ein dyled yn fawr iddynt.
Dywedodd Mandy Rayani: “Hoffwn ddiolch i’r Siryfion am y seremoni wobrwyo a thalu teyrnged i’r nyrsys a’r staff cymorth gweithgar yma yn Hywel Dda. Maent wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig COVID-19 i ddarparu gwasanaeth a gofal arbennig i’n cleifion ac mae’r seremoni wobrwyo hon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddangos ein gwerthfawrogiad o’r proffesiwn nyrsio yn ystod yr amser digynsail hwn.”