Neidio i'r prif gynnwy

Seremoni Ailymrwymo a Phecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter

Aelodau

Mae sefydliadau iechyd o bob rhan o Gymru wedi ailymrwymo i siarter bwysig gan hyrwyddo a chryfhau partneriaethau rhyngwladol.

Cafodd seremoni ailymrwymo a dathlu pum mlynedd y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru ei chynnal ar 17 Hydref 2019 fel rhan o Gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghasnewydd, Cymru. Yn ymuno â'r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG, eu sefydliadau partner, ynghyd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton, a Phrif Weithredwr y GIG Dr Andrew Goodall.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i sefydliadau'r GIG ailymrwymo eu haddewid i egwyddorion y Siarter a dathlu popeth roedd y Siarter wedi'i gyflawni. Rhoddodd gyfle hefyd i gyflwyno nifer o lofnodwyr newydd o'r GIG ehangach a'r trydydd sector, ynghyd â lansio Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter.

Cefndir

Cafodd y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru ei lansio'n wreiddiol ar 26 Tachwedd 2014. Cafodd ei datblygu gan y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â'r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG.

Mae'r Siarter yn ymrwymiad unigryw ar gyfer y GIG cyfan, gan geisio sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd y GIG yn cael eu hadlewyrchu yn ein gweithgarwch iechyd rhyngwladol, gan gryfhau gwaith cyfatebol Cymru i adeiladu arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygu partneriaethau cynaliadwy sy'n seiliedig ar degwch wrth fynd ar drywydd buddion cydfuddiannol, diriaethol a bywydau llewyrchus iach i bawb, o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru.

Gwnaeth pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru lofnodi'r Siarter yn 2014, gan addo dilyn arfer da, sicrhau llywodraethu cadarn a chyfrifoldeb sefydliadol, a datblygu partneriaethau rhyngwladol cyfatebol. Ers hynny mae llawer o gysylltiadau amrywiol a ffrwythlon wedi'u sefydlu rhwng sefydliadau GIG Cymru a'u partneriaid ledled y byd.

Mae'r cydweithio hwn wedi arwain yn y pen draw at fwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol, undod ac amrywiaeth, mwy o arweinyddiaeth a sgiliau iechyd, hyrwyddo dysgu, rhwydweithio ac arloesi, ac wedi ehangu rôl ac effaith Cymru ar iechyd yn rhyngwladol ac yn fyd-eang.

Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter

Mae'r Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter wedi'i ddatblygu o wersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, gan gasglu enghreifftiau o arfer gorau a darparu fframwaith llywodraethu cadarn i gefnogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol. Fe'i cynlluniwyd fel ‘dogfen fyw,’ a bydd y Pecyn Cymorth yn cael ei ddiweddaru'n barhaus i gynorthwyo llofnodwyr i weithredu egwyddorion y siarter.

Meddai Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n llwyddiannus gyda phartneriaid tramor ers sawl blwyddyn bellach. Mae'r Siarter wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth gryfhau partneriaethau iechyd rhyngwladol a hyrwyddo proffil Cymru ar lwyfan y byd.

“Mae ailymrwymo i'r Siarter a chreu Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter yn gamau pwysig o ran sicrhau bod gwaith da yn parhau.”

Gellir gweld y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru yma https://ihcc.publichealthnetwork.cymru/files/5914/8467/3051/IHCC_Charter_for_IHP_Interactive_E.pdf, a gellir gweld Pecyn Cymorth Gweithredu'r Siarter drwy'r ddolen ganlynol https://ihcc.publichealthnetwork.cymru/files/1015/7122/9482/Charter_for_Int_Health_Toolkit_English_.pdf