Mae Feirws Syncytial Anadlol (RSV) yn cylchredeg ymhlith plant a phlant bach yn ardal Hywel Dda (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro)
Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dirprwy Brif Weithredwr Dr Philip Kloer: “Oherwydd y cyfyngiadau COVID, prin fu’r achosion o RSV yn ystod y pandemig, ond mae’r feirws hwn wedi dychwelyd ac mewn niferoedd uwch wrth i bobl gymysgu.
“Mae RSV yn salwch anadlol cyffredin i blant yn ystod tymor y gaeaf, ac yn achosi ychydig iawn o broblemau i fwyafrif y plant. Fodd bynnag, gall babanod ifanc iawn, yn enwedig y rhai a anwyd yn gynamserol, a phlant â chyflyrau ar y galon neu'r ysgyfaint, gael eu heffeithio'n ddifrifol ac mae'n bwysig bod rhieni'n ymwybodol o'r camau i'w cymryd. "
Mae rhieni'n cael eu hannog i gadw llygad am symptomau haint difrifol mewn plant sydd mewn perygl, gan gynnwys:
* tymheredd uchel o 37.8 ° C neu'n uwch (twymyn)
Y ffordd orau i atal RSV yw golchi dwylo â sebon a dŵr neu lanweithydd dwylo yn rheolaidd, cael gwared ar hancesi sydd wedi'u defnyddio'n gywir, a chadw arwynebau'n lân ac wedi'u glanweithio.
Nid yw'r mwyafrif o achosion o bronciolitis yn ddifrifol ac maent wedi clirio o fewn 2 i 3 wythnos, ond dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio GIG 111 os:
Deialwch 999 am ambiwlans os: